[caption id="attachment_7133" align="alignleft" width="300"] Staff a swyddogion UAC yn mwynhau ymweliad a fferm Daioni Organig, gan bwysleisio #AmaethAmByth[/caption]
Diwrnod cyn Sioe Laeth Cymru (Llun Hydref 24) bu sylw Undeb Amaethwyr Cymru ar y diwydiant llaeth yn ystod ymweliad fferm sy’n gartref i Daioni Organic.
Roedd nifer fawr o aelodau a swyddogion yr Undeb yn bresennol ar fferm Ffosyficer, Boncath, Sir Benfro yn ogystal â Mr Michael Eavis o fferm Worthy, sy’n fwy adnabyddus fel sylfaenydd a threfnydd G?yl Glastonbury.
Mae Laurence wedi bod yn ffermwr llaeth ers dros 40 o flynyddoedd, ac ef sy’n gyfrifol am lwyddiant ysgubol Daioni.
Ers cymryd awenau fferm Ffosyficer wrth ei dad ym 1970, yn ogystal â bod wrth wraidd y busnes Daioni, mae Laurence wedi ymestyn y fferm deuluol o 150 erw i ymhell dros 3,000 erw o dir ffrwythlon.
Newidiodd y fferm i gynhyrchu’n organig ym 1999 ac ers hynny, mae Laurence a’r tîm wedi cynyddu’r cynnyrch llaeth a arweiniodd at lansio’r brand Daioni a chyfres o gynhyrchion sy'n cael eu gwerthu yn rhyngwladol.
Yn 2008, cafodd llaeth blas Daioni ei allforio dramor am y tro cyntaf a bellach yn cael ei werthu mewn allfeydd ar draws y byd yn ogystal siopau bach a phrif archfarchnadoedd y DU.
Hefyd, yn 2012, Daioni oedd y cwmni llaeth Prydeinig cyntaf i ennill statws organig yn Tsieina ac yn 2014 agorwyd swyddfa yn Hong Kong i ganolbwyntio ar werthiant Pasiffig Asia. Bellach mae allforion yn gyfrifol am 15% o drosiant y busnes.
Y teulu Harris sy’n berchen y busnes teuluol yn gyfan gwbl bellach ac yn cyflogi oddeutu ugain o bobl leol ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.
[caption id="attachment_7134" align="alignleft" width="300"] Mater i’r teulu (chwith i dde): Eira a Laurence Harris, Elizabeth a Michael Eavis o Fferm Worthy, Glastonbury, Tom a Francisca Harris gyda’u plant.[/caption]
Enillodd Mr Harris wobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC llynedd, ac wrth siarad yn yr ymweliad fferm, dywedodd: “Rydym i gyd yn hynod o falch cael croesawu Michael Eavis i Ffosyficer. Dyma unigolyn sydd wedi cynyddu’r fferm laeth, a medrwn ni gyd ddysgu o’i frwdfrydedd a’i rhagwelediad yn denu’r rhai sy’n byw yn y trefi i hyfrydwch Fferm Worthy. Mae’n hollbwysig ceisio rhoi’r bobl hyn ar ben y ffordd ynghylch y materion sy’n wynebu ffermwyr llaeth ar hyn o bryd.”
Dywedodd Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas wrth y rhai oedd yn bresennol bod “Ein diwydiant llaeth wedi dioddef yn ofnadwy oherwydd prisiau isel dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o gynhyrchwyr wedi gweld y siec laeth yn haneru ac yn gorfod delio gyda chytundebau annheg. Y gwirionedd yw bydd ein cynhyrchwyr llaeth yn gorfod delio gyda phrisiau anwadal yn y dyfodol.
“Tra bod yna ychydig o gynnydd ym mhrisiau wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, ac mae’n rhaid croesawu'r rhain, ni fyddwn yn gweld derbyn y pris llawn am sbel eto yn y dyfodol oherwydd yr anghydbwysedd rhwng cyflenwad a galw parhaol byd-eang.”
Hefyd, dywedodd Mr Thomas wrth y rhai oedd yn bresennol y byddai manteisio ar farchnadoedd newydd yn rhan hanfodol ar gyfer y sector laeth yn dilyn Brexit a bod hi’n hanfodol bod y prisiau a delir i ffermwyr yn galluogi buddsoddiad ac arloesedd fel y gallwn fod yn gystadleuol yn fyd-eang.
"Tra bod prisiau a materion cyflenwad a galw yn gyfredol, mae ein sector llaeth hefyd yn wynebu dau fater hollbwysig arall.
"Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr adolygiad pedair blynedd o Barthau Perygl Nitradau (NVZ), a gall y canlyniad olygu goblygiadau ariannol i’r rhai hynny sy’n byw oddi fewn i’r ardaloedd dynodedig.
"Rydym wedi bod yn rhan o adolygiad y NVZ ac wedi cyflwyno sylwadau llwyddiannus ar nifer o ddynodiadau, a arweiniodd at gael eu tynnu oddi ar y dewis o ardaloedd ar wahân yn yr ymgynghoriad.
"Ond, mae nifer y dynodiadau newydd arfaethedig yn parhau i fod yn achosi pryder ac rydym yn parhau i ailadrodd yr effeithiau gweithredol ac ariannol y byddai’r dynodiadau yn golygu i ffermydd sy'n byw o fewn ardal NVZ."
O ystyried costau o'r fath, pwysleisiodd Mr Thomas bod rhaid cael cyfiawnhad llawn ar gyfer unrhyw gynnydd arfaethedig yn y dynodiad ac mi anogodd aelodau UAC i wneud yn si?r eu bod yn gweithio gyda'u swyddfa sirol lleol a chyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad.
Wrth gyfeirio at y mater o TB mewn gwartheg, dywedodd Mr Thomas: "Mae TB mewn gwartheg yn parhau i achosi problem sylweddol yma yn Sir Benfro. Wythnos diwethaf roeddem yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod nhw am ystyried dull o brofi a difa moch daear fel cam bach i’r cyfeiriad cywir, ond bydd nifer o ffermwyr yn poeni am oblygiadau rhannu Cymru’n rhanbarthau TB.
Ychwanegodd y byddai targedi moch daear heintus yn gam i’w groesawu, ond mae’n siomedig bod cynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio bellach cyn bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd wedi i’r Llywodraeth flaenorol roi’r gorau i’r cynllun cynhwysfawr gwreiddiol i ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”
"Rwyf am fod yn glir ar un peth serch hynny - ni allwn osod unrhyw faich ariannol na gweinyddol pellach ar y diwydiant. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol i ariannu'r camau nesaf - o ystyried y miliynau o bunnoedd sydd wedi ei wastraffu ar raglen frechu moch daear aneffeithiol, " ychwanegodd y Dirprwy Lywydd.
[caption id="attachment_7135" align="aligncenter" width="300"] O’r chwith i’r dde, Michael Eavis, Francisca Harris a Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters yn mwynhau’r ymweliad fferm.[/caption]