Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am eglurder brys ar Brexit yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys bod yn rhaid i’r Senedd bleidleisio a gall y DU ddechrau ar y broses o adael yr UE.
Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn golygu na all y Llywodraeth fynd ati ar ben ei hunan i gychwyn Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon er mwyn dechrau’r trafodaethau ffurfiol i adael yr UE, a dywed yr Undeb bod hyn yn ychwanegu rhagor o ddryswch yngl?n â chynlluniau Brexit.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rydym am weld eglurder! Mae'r penderfyniad hwn wedi cyflwyno mwy o ansefydlogrwydd ar adeg pan allwn wir wneud hebddo. Rydym wedi bod ynghanol y broses o gynllunio Brexit ers misoedd bellach, ac mi groesawyd cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog yngl?n ag amserlen ar gyfer dechrau Erthygl 50. Mae diystyru’r amserlen hynny ddim yn help o gwbl. Gall olygu goblygiadau enfawr, nid yn unig i amseru Brexit ond o bosib i dermau Brexit.”
Bydd UAC yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns wythnos nesaf ac yn trafod y mater ymhellach.