Neges Nadolig y Llywydd

Mae'n anodd credu mai dyma fy ngholofn olaf ar gyfer 2018 - mae'n sicr wedi bod yn flwyddyn cythryblus, gyda Brexit, cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, y difrod a achoswyd gan y tywydd, TB a llygredd amaethyddol yn parhau ar frig yr agenda ymysg llawer o faterion ffermio eraill.

Ond roedd yn flwyddyn lle gwnaethom gynnydd sylweddol yn ein hymgyrch #CyllidFfermioTeg. Yr wyf yn falch o ddweud bod lobïo UAC yn erbyn Barnetteiddio arian gwledig Cymru, fel rhan o'r ymgyrch #CyllidFfermioTeg, wedi bod yn llwyddiannus. Wrth gwrs, mae'r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru heb gael ei gadarnhau eto a bydd yn sicr yn un o'n prif flaenoriaethau yn 2019.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cyfarfod â staff Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rheolaidd, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths a Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn ogystal â gweinidogion DEFRA, Michael Gove a George Eustice, a Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns.

Mae hyn yn ychwanegol at fynychu a rhoi tystiolaeth i lawer o bwyllgorau’r Cynulliad, Senedd y DU a phwyllgorau eraill ar fwy o achlysuron nag erioed o'r blaen yn ystod blwyddyn, gan gymryd pob cyfle i gynrychioli buddiannau ein haelodau.  Gyda hynny mewn golwg, mae barn UAC wedi bod yn gyson ac yn lobïo gwleidyddion mai'r ffordd orau i leihau aflonyddwch a difrod economaidd i amaethyddiaeth a diwydiannau eraill yw aros o fewn y Farchnad Gyffredin a’r Undeb Dollau ar ôl gadael yr UE.

Bydd unrhyw beth llai nag hynny yn dod â rhwystrau yn ei gylch o ran masnach a materion eraill, gyda chanlyniadau anochel i'n diwydiant a'r economi. Erbyn i'r papur hwn fynd i brint, roeddem yn dal i aros i glywed beth fyddai'r penderfyniad yn Nhŷ'r Cyffredin ar y cytundeb arfaethedig gyda'r UE. Ond gall aelodau fod yn sicr y byddwn yn parhau i’w rhoi nhw, Cymru a'n heconomi yn gyntaf ym mhopeth a wnawn yn y flwyddyn i ddod.

Yn agosach at adref, bu materion fel y tywydd, polisïau ffermio Cymru, diogelwch y fferm, Unedau Cwarantîn, llygredd amaethyddol a TB yn destun trafodaethau cyfredol o fewn yr undeb a gyda swyddogion y llywodraeth.  Wrth gwrs, bydd y tywydd eleni yn cael ei gofio gan lawer. Mae canlyniadau'r gwanwyn gwlyb a'r sychder hir dros yr haf yn parhau i gael effaith ar draws y wlad.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater galwom am gynhadledd tywydd Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru. Roedd yn gam pwysig, gan gymryd camau i leihau effeithiau’r tywydd presennol a rhai’r dyfodol ar ddiwydiant amaeth Cymru. Pwysleisiwyd yr angen am gamau pendant i'w cymryd cyn gynted ag y bo modd o ran ymlacio rheolau a mesurau eraill.

Wrth gwrs, amser a ddengys os gwnaed digon i sicrhau bod porthiant hanfodol y gaeaf ar gael i ffermydd ledled Cymru a byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.

Wrth gwrs, ymrwymiad pwysig arall i ni eleni oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 'Brexit a'n Tir'. Trafodwyd yr ymgynghoriad â miloedd o aelodau o bob rhanbarth o Gymru a phob sector, yn ogystal ag eraill sydd â diddordeb yn y diwydiant amaethyddol.

Trafodwyd yr ymgynghoriad hwn mewn deuddeg cyfarfod agored UAC, yn ogystal â thrwy prosesau pwyllgor democrataidd arferol yr undeb. Yn ein hymateb i hyn, fe wnaethom bwysleisio mae barn unfrydol ein haelodau oedd y dylai unrhyw newidiadau mawr, fel y cynigiwyd yn yr ymgynghoriad, i bolisïau gwledig gael eu penderfynu ar sail gwybodaeth a dadansoddiad ystyriedig o dirwedd economi ac amgylchedd masnachu ôl-Brexit.  Galwom hefyd am ddadansoddi, modelu a threialu manwl a thrylwyr i ymchwilio i effeithiau tebygol polisïau ar fusnesau, sectorau, rhanbarthau a'r rhai sy'n ymwneud â chadwyni cyflenwi amaethyddol.

Mae angen ystyried y polisïau ôl-Brexit sy'n debygol o effeithio ar ein prif gystadleuwyr mewn rhanbarthau datganoledig a'r Undeb Ewropeaidd sy'n weddill, ac mae angen ystyriaeth gofalus o ddadansoddiad effeithiau posibl o fanteision cystadleuol ac ystumiadau marchnad oherwydd polisïau gwahanol.

Hefyd, pwysleisiwyd ein bod angen dealltwriaeth lawn o ddilysrwydd ac effeithiau posib y cynigion o ran cydymffurfio â Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth.

O ystyried yr ymateb a gawsom gan aelodau, gwnaethom yn glir eich bod chi - aelodau UAC - wedi gwrthod y cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.  Er hynny, gwelsom werth mewn rhai elfennau o'r cynigion, ac yn eu tro, cytunwyd ar set o bum egwyddor allweddol gyda NFU Cymru. Lansiwyd y papur o egwyddorion ar y cyd 'Y Ffordd Ymlaen i Gymru' ar ddiwedd mis Hydref yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd.

Clywodd Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, sut ymunodd UAC gyda NFU Cymru i gytuno ar set o egwyddorion polisi a ddylai ddiffinio ffordd ymlaen sy'n unigryw i Gymru ac yn seiliedig ar roi bwyd, ffermio, bywoliaeth, cymunedau ac amgylchedd Cymru ar safle gadarn ar ôl-Brexit.

Ni allwn bwysleisio digon ein bod wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y Flwyddyn Newydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y dylai'r ymgynghoriad presennol gael ei ystyried fel dechrau nid diwedd y broses, a chredwn mai dyma'r cyfle i ddylunio ac adeiladu polisi sy'n addas at y diben. Dyma beth fydd yn cadw ein tîm polisi'n brysur yn y flwyddyn sydd i ddod.

Roedd TB hefyd yn parhau i fod yn fater pwysig i ni. Mae wedi bod oddeutu 13 mis ers sefydlu'r rhaglen TB rhanbarthol yng Nghymru. Er bod y rhaglen yn parhau i fod yn y camau cynnar, nid yw'r data sydd ar gael yn dangos unrhyw ostyngiad sylweddol mewn lefelau TB. Dengys data TB fod 94.8 y cant o fuchesi yn rhydd o TB yn Chwarter 2, 2018. Mae hyn yn leihad o'i gymharu â'r un amser yn y flwyddyn flaenorol (94.9 y cant). Mae data o Defra hefyd yn dangos bod nifer y gwartheg a laddwyd yng Nghymru rhwng Awst 2017 ac Awst 2018 ychydig dros 10,000. Mae hyn yn gynnydd o 2.3 y cant ar y flwyddyn ganlynol. Yn yr un modd, mae nifer y buchesi a gyfyngir gan glefydau yng Nghymru wedi codi o 799 i 824 dros yr un cyfnod.

Llynedd roedd yna gynnydd o 75 y cant mewn digwyddiadau TB yn ystod y 12 mis blaenorol yn Ardal TB Canolradd (Gogledd). Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai buchesi cyfagos yn yr ardal hon yn gorfod cael dau brawf cyffiniol arall ymhen chwe mis. Rydym yn dal i bryderu bod y sefyllfa wreiddiol o reoli TB yng Nghymru'n parhau i ganolbwyntio ar gynnydd mewn profion gwartheg, er gwaethaf diffyg cynnydd rhwystredig wrth fynd i'r afael â'r afiechyd ym moch daear.

Gyda hyn oll mewn golwg, rydym hefyd yn dal i bryderu am y wybodaeth ynglyn a ffermydd sydd yn cael ei ddarparu ar system wybodaeth mapio TB gwartheg 'ibTB' Cymru. Mae'r system wybodaeth hon yn parhau'n agored i'r cyhoedd a bod eithafwyr sydd yn erbyn difa yn dod i wybod lleoliad y ffermydd.

Rydym wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ynglyn a’r mater hwn ym mis Hydref a mis Tachwedd eleni ac ailadroddwyd y pryderon hyn mewn gweithdy ibTB diweddar. Cefnogodd pawb ond un o'r rhanddeiliaid a oedd yn rhan o’r  gweithdy hwnnw yng Nghymru safbwynt yr Undeb Ewropeaidd ar y mater hwn.  Gallaf sicrhau aelodau y byddwn yn parhau i bwyso am system sy'n sicrhau mynediad cyfyngedig i'r wybodaeth ar ibTB.

O ystyried y nifer o newidiadau polisi a rheoleiddiol sy'n ymwneud â rheolaeth TB mewn gwartheg yng Nghymru, mae angen gwella ymgynghori ac ymgysylltu â’r diwydiant ynglyn a’r 'camau nesaf'. Rhaid i ddyfodol rheolaeth TB yng Nghymru gynnwys adolygiad o'r mesurau cyfredol a wneir i benderfynu a ydynt bellach yn addas.

Roedd y rheolau sy'n ymwneud â sefydlu ac ardystio Unedau Cwarantîn hefyd yn cael cryn dipyn o’n sylw ni eleni. Ar hyn o bryd, mae nifer yr Unedau Cwarantin yng Nghymru yn hynod o isel. O siarad â'n haelodaeth, gwyddom fod y gofynion ar gyfer sefydlu a chynnal uned cwarantin yn rhy feichus ac yn anaddas i'r rhan fwyaf sy’n cadw anifeiliaid.  Mae yna bryderon arbennig hefyd ynghylch cost sefydlu Uned Cwarantin i ffermwyr tenant.

Mae diffyg cyfleusterau Unedau Cwarentin yn golygu bod rhaid i ffermywr sy’n dymuno mynd a’i hanifeiliaid i sioeau yn gorfod cadw at y rheol chwe diwrnod a lle cynhelir  sioeau yn agos iawn at eu gilydd, mae'n anochel bod rhaid  i arddangoswyr orfod dewis rhwng y digwyddiadau. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn y niferoedd sy’n mynychu sioeau llai. O gofio bod llawer o arddangoswyr yn magu profiad mewn sioeau llai, mae cadw hyfywdra sioeau o'r fath yn hanfodol i'r diwydiant.

Rydym wedi llunio arolwg i gasglu barn ar y rheolau Unedau Cwarantin presennol ac rwy’n eich annog i'w lenwi - bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r broses adolygu Unedau Cwarantin y flwyddyn nesaf.

Yn ystod 2018, mae UAC wedi parhau i gydweithio'n ddwys â rhanddeiliaid eraill y diwydiant yn Is-grŵp y Fforwm Rheoli Tir Cymru sy'n edrych ar lygredd amaethyddol.  Cynhyrchodd y grŵp adroddiad ‘Mynd i'r Afael â Llygredd Amaethyddol’ ar gais Ysgrifennydd y Cabinet.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys 45 o argymhellion yn seiliedig ar ddull pum pwynt o gyngor ac arweiniad gwell, amrediad gwell o gymhellion buddsoddi, datblygu ymagwedd wirfoddol gan ffermwyr tuag at reoli maetholion, sicrhau bod y drefn reoleiddio ffurfiol yn ddigon cadarn i gyflawni'r canlyniadau sy'n ofynnol ac adnabod a hyrwyddo arloesedd.

Ers cyflwyno'r adroddiad dros y Pasg 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd y bydd rheoliadau newydd Cymru gyfan yn dod i rym ym mis Ionawr 2020. Bydd y rhain yn cynnwys cynllunio rheoli maeth, taenu gwrtaith cynaliadwy sy'n gysylltiedig â gofynion y cnwd, pryd, ble a sut mae gwrtaith yn cael ei ledaenu a safonau storio tail.

Ar y cyd â hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau'r broses o ymweld â phob fferm llaeth yng Nghymru i asesu storio slyri mewn perthynas â SSAFO a rheoliadau storio olew. Gallaf sicrhau'r aelodau ein bod wedi holi pam y bydd rheoliadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno cyn i'r ymweliadau gael eu cwblhau.

Mae’n anffodus bod y sylw wedi newid o weithio ar y cyd at fwy o reolau gan y bydd hyn yn cyflwyno costau ychwanegol i'r sector amaethyddiaeth yn ystod adeg ansicr, a pan fydd mwyafrif helaeth o fusnesau fferm yng Nghymru yn gofalu am yr amgylchedd ac yn cydymffurfio â rheoliadau.

Roedd diogelwch fferm hefyd yn parhau ar ein hagenda trwy gydol y flwyddyn, gyda UAC yn parhau i ymdrechu i dynnu sylw at arferion gorau trwy Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, digwyddiadau diogelwch fferm a'n tudalen diogelwch fferm benodol ymroddedig yn y cyhoeddiad hwn. Trwy fwy a mwy o ymwybyddiaeth, rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gweld gostyngiad mewn damweiniau a marwolaethau fferm yn 2019.

Eleni hefyd lansiwyd Academi UAC, menter sy’n cynnal digwyddiadau ymroddgar, addysgiadol ac ymarferol ledled Cymru ar gyfer aelodau iau yr undeb. Mae ein swyddfeydd sirol wedi gwneud gwaith gwych wrth drefnu teithiau fferm, taith i ffatri JCB, trefnu cyfleoedd trafod gyda gwleidyddion a llawer mwy fel rhan o'r fenter. Mae wedi mynd o nerth i nerth, ac edrychaf ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau o'r math hwn y flwyddyn nesaf. Os ydych wedi eu colli eleni - bydd llawer mwy yn digwydd yn 2019.

Yn y cyfamser, mae'r gwaith hanfodol o ddydd i ddydd o gynorthwyo aelodau gyda ffurflenni ac apeliadau, a darparu llu o wasanaethau allweddol eraill wedi parhau, ac rydym yn ddyledus unwaith eto i'n staff swyddfa sirol sy’n parhau i roi cymorth i'r aelodau sy'n arbed ac yn rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.

Bydd gwasanaethau o'r fath yn parhau wrth wraidd gwaith UAC fel sefydliad gwledig, ac edrychaf ymlaen at weld llawer o'r newidiadau a weithredwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gwella eto yn y blynyddoedd i ddod. Bydd UAC yn parhau i fod yn ar flaen y gad yn y flwyddyn i ddod er mwyn diogelu buddiannau teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig Cymru, gan sicrhau bod y rhai hynny sydd wedi addo ac wedi rhoi sicrwydd yn gweithredu'r hyn a addawyd i’r diwydiant cyn refferendwm y DU.

Hoffwn ddiolch i'n holl staff a'n swyddogion am eu hymdrech parhaus a'u gwaith caled trwy gydol y flwyddyn ac mae pob un o'n haelodau, sydd trwy eu haelodaeth a'u cefnogaeth, yn cyfrannu at lais cryfach a mwy llwyddiannus i ddiwydiant amaethyddol Cymru.

Nadolig Llawen a 2019 hapus a ffyniannus i chi i gyd.