Neges y Flwyddyn Newydd gan Lywydd UAC

Wrth i mi ysgrifennu neges y Flwyddyn Newydd eleni, mae yna lai na 100 diwrnod ar ôl cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac, yn seiliedig ar ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd dros yr oriau nesaf, heb sôn am y diwrnodau neu wythnosau nesaf o ran Brexit, Llywodraeth y DU neu’r penderfyniadau y bydd/na fydd y Senedd neu’r bobl yn eu gwneud.

 

Fel pawb arall, mae ffermwyr yn dechrau blino clywed am Brexit, ac yn poeni ac yn teimlo’n fwyfwy rhwystredig wrth i ni wylio’r cloc yn ticio tuag at Fawrth 29 2019, a’r sefyllfaoedd posib a fydd yn drychinebus nid yn unig ar gyfer ffermio, ond ein heconomi yn ei chyfanrwydd.

 

Fel y mae UAC wedi dweud dro ar ôl tro, ni fyddai unrhyw Llywodraeth y DU cyfrifol yn caniatáu i ni adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac nid oedd yn syndod felly bod cadeiryddion sir a phwyllgorau UAC, yn unfrydol, wedi cefnogi newid arfaethedig i gynnig Llywodraeth y DU mewn cefnogaeth i’w pecyn ymadael a fyddai’n atal y DU rhag gadael y DU heb gytundeb.

 

O fewn diwrnodau o’n penderfyniad i gefnogi’r newid hwnnw, a gyflwynwyd gan gyn-weinidog DEFRA, Hilary Benn, roeddwn yn Nhŷ’r Cyffredin yn gwrando ar ddatganiad y Prif Weinidog bod y ‘bleidlais arwyddocaol’ hir ddisgwyliedig ar y cytundeb ymadael yn cael ei ohirio tan ddiwedd mis Ionawr.

 

Mae gwylio hyn, ynghyd a’r giamocs gwleidyddol, gweithrediadau a’r methiannau a ddilynodd, wedi cynyddu fy mhryderon y gallai’r sefyllfa waethaf bosib, Brexit heb gytundeb, ddigwydd bron trwy ddamwain, er gwaethaf pawb, heblaw’r ASau mwyaf byrbwyll, yn cydnabod y trychineb a fyddai’n dilyn - yn enwedig i’r rhai a fydd yn wyna dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf a’u prisiau’n gostwng os fyddwn yn colli mynediad i farchnad yr UE ar ôl mis Mawrth.

 

Mae refferendwm Brexit wedi ymestyn ymhellach y rhaniadau a oedd eisoes yn bodoli ac yn bygwth rhannu, nid yn unig pleidiau gwleidyddol ond y genedl gyfan, a hynny’n barhaol. Er bod niferoedd cynyddol yn cefnogi’r syniad mai ail refferendwm yw’r unig ffordd i ddatrys y rhwystredigaeth wleidyddol, mi allai hyn hefyd ychwanegu at y rhaniad.

 

Er gwaethaf y dyfodol cythryblus, yn ystod yr wythnosau diwethaf, cododd fy nghalon ar ôl cyfarfod â gwleidyddion o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol sydd, er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddol, yn cydweithio i chwilio am atebion a chyd-ddealltwriaeth er mwyn lleihau’r peryglon yr ydym bellach yn eu hwynebu. Yn wir, y gefnogaeth drawsbleidiol a dderbyniwyd i welliant arfaethedig Hilary Benn a gyfeiriwyd ato eisoes sydd wedi seilio cefnogaeth UAC i’r cynnig yma.

 

Yn sicr, mae yna lygedyn o obaith, ac erbyn yr adeg y cyhoeddir yr erthygl hon efallai bydd tymor ewyllys da’r Nadolig a rhai addunedau Blwyddyn Newydd synhwyrol yn golygu ein bod ni yn medru symud ymlaen.

 

Gyda phopeth sy’n digwydd ar hyn o bryd, ac ansicrwydd llwyr ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd dros yr wythnosau nesaf, heb sôn am Fawrth 29, mae proffwydoliaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ymddangos yn ddiwerth.

 

Fodd bynnag, yn sicr, gallwn ni ddysgu gwersi o’r hyn sydd wedi digwydd ers mis Mehefin 2016: Beth bynnag yw barn unigolyn ar Brexit, ni fyddai neb yn gwadu bod y trafodaethau, paratoadau a throsglwyddo yn golygu mynydd o waith ychwanegol i’r Llywodraeth.

 

Mae hyn yn wir am holl adrannau’r Llywodraeth yng Nghymru ac ar draws y DU; cafodd y gwaith cyfreithiol o adolygu a throsglwyddo deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â'r UE ei ddisgrifio gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin fel “... o bosibl un o’r prosiectau deddfwriaethol mwyaf a gyflawnwyd erioed yn y DU.”

 

Ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU megis Defra, mae'r llwyth gwaith ychwanegol wedi bod yn helaeth, ac er gwaethaf cyflogi 1,400 o staff ychwanegol, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi pwysleisio na fyddai’r adran wedi medru ymgymryd â’r holl waith paratoi Brexit angenrheidiol cyn mis Ebrill.

 

Er nad yw Llywodraeth Cymru yn rhannu ehangder cyfrifoldebau Defra, mae baich y gwaith ychwanegol yn sgil Brexit yn anochel ac yn arwyddocaol ym mhob adran.

 

O ystyried baich y gwaith angenrheidiol ychwanegol hynny, boed yn Whitehall, San Steffan, Parc Cathays neu Fae Caerdydd, mae’r rhesymeg o sicrhau nad oes gwaith diangen ychwanegol yn cael ei greu yn amlwg iawn - ond, o ran polisïau amaethyddol, mae’r gwrthwyneb wedi digwydd, gyda chynigion o newidiadau radical i gefnogaeth fferm a mesurau amgylcheddol yn ychwanegu nid yn unig at faich gwaith presennol gweision sifil, ond hefyd ansicrwydd a phoendod i ffermwyr.

 

Mae cynigion o’r fath a gwaith ychwanegol yn galw am archwilio gwleidyddol ychwanegol gan bwyllgorau ym Mae Caerdydd a San Steffan - pwyllgorau a ddylai fod yn canolbwyntio’n bennaf ar archwilio’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud mewn perthynas â Brexit, yn hytrach na meddwl am gynigion radical megis y rhai hynny sy’n cael eu cynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU a’r ymgynghoriadau a lansiwyd yng Nghymru a Lloegr. Ac wrth gwrs, mae deddfwriaeth a chynigion sydd yn cael ei harchwilio’n wael oherwydd blaenoriaethau eraill yn arwain at broblemau arall.

 

Dyma’r fath beryglon a arweiniodd at UAC yn rhybuddio, diwrnod ar ôl Refferendwm yr UE, fod “gwaith aruthrol i’w wneud o ran newid trefniadau domestig a deddfwriaeth, gan gynnwys yn nhermau deddfwriaeth ddatganoledig Cymru, heb sôn am ein datgysylltu o gyllideb yr UE yr ydym eisoes wedi’i ymrwymo ato, trafod cytundebau masnach a delio â materion megis rheolaethau ar y ffin.” Gwnaethom hefyd ofyn “... bod y DU a’r UE yn cytuno ar amserlen synhwyrol i Brexit ar ôl i etholwyr y DU bleidleisio i adael yr UE - neu beryglu canlyniadau ofnadwy ar gyfer y DU a’r 27 Aelod-wladwriaeth sy’n weddill.”

 

Ni ystyriwyd y fath rybuddion, ac roedd yr oportiwnistiaeth fyrbwyll cyn cael ein datgysylltu o reoliadau’r UE wedi ychwanegu at y llwyth gwaith yn sylweddol - heb sôn am y pryderon ac ansicrwydd ychwanegol i ffermwyr sydd ar fin wynebu cyfnod cythryblus.

 

Gadewch i ni obeithio y bydd 2019 yn dwyn tawelwch ar ôl y storm wleidyddol ddiweddar, a rhywfaint o synnwyr cyffredin hefyd.

 

Ond nid llywodraethau yn unig sydd wedi bod dan bwysau: mae staff yr undeb hefyd wedi gorfod ymdrin gyda thon newydd o faterion ychwanegol yn sgil Brexit. Mae yna fwy o gyfarfodydd grŵp “rhanddeiliaid” o dan arweiniad y llywodraeth nawr na allai gofio erioed. Mae ein holl swyddfeydd sirol wedi croesawu’r her o sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol yn ymwybodol o’r pryderon am ddyfodol amaethyddiaeth. Roeddent hefyd yn chwarae rhan fawr wrth friffio aelodau ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru “Brexit a’n Tir” a thrwy hynny sicrhau bod 2,000 o aelodau’n ymateb.

 

Rhaid i mi, felly, ddweud diolch yn fawr i’n holl staff am ymdrin â’r heriau yma. Mae ein negeseuon wedi cael eu trosglwyddo’n gyson ac aml, ac yn ddi-os, maent wedi cael eu clywed. Wedi’r cyfan, ein hymgyrch #CyllidFfermioTeg oedd yn gyfrifol am ymrwymiad gan Lywodraeth y DU ynghylch y trefniadau cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yn y dyfodol ar ôl Brexit. Gallaf eich sicrhau i gyd fy mod yn falch iawn o’r ymdrechion hynny.

 

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, ond gobeithio na fydd yr amseroedd anodd yn para llawer mwy. Ond dylem gymryd cysur o wybod y bydd pobl galed yn parhau’n hir ac yn sicr, gyda’n gilydd mi fyddwn mewn sefyllfa gadarn.