Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cefnogi'r newid i gytundeb ymadael Llywodraeth y DU o’r UE a allai rwystro’r difrod o Brexit caled.
Cefnogwyd y newid, a gyflwynwyd gan yr AS Llafur Hilary Benn a’i llofnodi gan ASau Llafur a Ceidwadol, yn unfrydol gan gadeiryddion pwyllgorau sefydlog a sirol UAC yn ystod cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ddydd Mercher (5 Rhagfyr).
Mae newid Mr Benn, sy'n gwrthod y cytundeb ymadael y UE a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, hefyd yn gwrthod bod y DU yn gadael yr UE heb ryw fath o gytundeb ymadael a fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol, ac yn cael ei gefnogi gan Blaid Cymru, Plaid Genedlaethol yr Alban a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ogystal â llawer o ASau Ceidwadol a Llafur.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Yn dilyn trafodaeth hir, cytunwyd yn unfrydol mai newid Mr Benn oedd yr opsiwn sy'n lleihau'r risg o’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb - rhywbeth a fyddai'n niweidiol i ffermio Cymru a'r DU yn gyffredinol."
Bydd newid Mr Benn yn cael ei drafod yn y Senedd dros y diwrnodau nesaf cyn y bleidlais derfynol ar y cytundeb ymadael ar Ragfyr 11.
"O gofio bod ASau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn debygol o wrthod cynnig y Llywodraeth i gefnogi'r cytundeb ymadael ar yr 11eg, byddem yn annog ASau i gefnogi'r newid gan Mr Benn gan ei fod yn lleihau’r peryglon o Brexit caled.
"Mae yna lawer o sôn am gynllun wrth gefn Gogledd Iwerddon. Mae newid Mr Benn mewn sawl ffordd yn fodd arall o gynllun wrth gefn a fydd yn lleihau’r perygl ohonom ni’n gadael yr UE heb gytundeb.”
Dywedodd Mr Roberts fod UAC hefyd wedi croesawu newid Dominic Grieve i gynnig y Llywodraeth a basiwyd gan y Senedd ar Ragfyr 4.
"Mae cefnogaeth y Senedd ar gyfer newid Mr Grieve yn golygu y bydd ASau yn gallu diwygio'r cynllun wrth gefn y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddod gerbron y senedd os byddant yn colli'r bleidlais ar yr 11eg o Ragfyr," meddai Mr Roberts.
Dywedodd Mr Roberts fod unioni'r pŵer i roi mwy o lais i’r senedd, o ystyried y gwahaniaethau barn yn y llywodraeth, yn hanfodol.
"Nid yw hyn yn ymwneud â rhwystredigaeth Brexit," ychwanegodd, "Mae'n ymwneud â lleihau'r perygl o ganlyniad dinistriol i'r DU oherwydd gwrthdaro gwleidyddol o fewn partïon ac ar draws y senedd."