Wythnos brecwast ffermdy UAC yn helpu i wella iechyd meddwl

Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae’n gyfle gwych i siarad a rhannu eich meddyliau cyn dechrau’r diwrnod, gan helpu hefyd i wella iechyd meddwl pobl.

Felly er mwyn hybu’r buddion iechyd a chael cyfle am sgwrs cyn i’r diwrnod ddechrau, unwaith eto, mae timau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ar draws y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 23 a dydd Sul 29 Ionawr 2023. Bydd UAC, unwaith eto hefyd yn cynnal brecwast ffermdy yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, Ionawr 24.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw at ein brecwastau ffermdy blynyddol. Gallwn ddechrau’r diwrnod gyda’n teulu, ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach, a chodi arian ar yr un pryd at ein hachos elusennol, sef Sefydliad y DPJ. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gefnogaeth wych eleni eto Mae’n deg dweud bod dechrau iach i’r diwrnod nid yn unig yn dda i galon iach, ond hefyd i feddwl iach.”

Mae wythnos frecwast Ffermdy UAC hefyd yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r cynnyrch lleol o safon wych y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu i ni bob dydd o’r flwyddyn, a thrwy gydol yr wythnos frecwast bydd UAC yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.

“Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, a rhannu eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant. Rydym hefyd am glywed eich hanesion chi, a fydd yn helpu ni i ddeall sut gallwn ni helpu ein gilydd. Pa ffordd well o wneud hynny na o gwmpas bwrdd lle rydyn ni'n mwynhau bwyd gwych a phaned o de,” ychwanegodd Glyn Roberts.

 

Ynys Môn / Anglesey

Dydd Sadwrn 28 - Caffi Marchnad Gaerwen (9.30am - 12.30pm)

Brycheiniog a Maesyfed 

Dydd Gwener 27 - Pafiliwn FUW, Llanelwedd (9am ymlaen)

Caernarfon

Dydd Sadwrn 21 - Canolfan Y Fron, Y Fron, Caernarfon

Dydd Llun 23 - Ty’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor

Dydd Mawrth 24 - Bryn Hynog, Llannor, Pwllheli

Dydd Iau 26 - Becws Islyn, Aberdaron 

Dydd Gwener 27 - Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed

Dydd Gwener 27 - Caffi Mart Bryncir, Bryncir

Caerfyrddin

Dydd Iau 26 - Neuadd Pontyates (8am-11am) 

Dydd Gwener 27 - Neuadd Llanarthne (8am-11am)

Ceredigion

Dydd Mawrth 24 - Neuadd Caerwedros (8.30 - 11.30)

Dydd Mercher 25 - Canolfan Mynach, Pontarfynach (8.30 - 11.30)

Dinbych a Fflint 

Dydd Gwener 27 - Festri Capel Cefnmeiriadog (9.00am-11.30am)

Dydd Sadwrn 28 - Neuadd Rhosesmor (9.00am - 11.30am)

Gwent a Morgannwg 

Dydd Gwener 27 - Ty Oakley Farm, Hafodyrynys, Crumlin (8am - 11am)

Dydd Iau 26 - Lesser Hall, Cowbridge, Vale Of Glamorgan ( 8am - 11am)

Meirionnydd

Dydd Mawrth 24 - Caffi Cymunedol, Dyffryn Ardudwy. 

Dydd Mercher 25 - Caffi Siop Bentre, Llanfrothen.

Dydd Iau 26 - Tŷ Mawr, Carrog

Dydd Gwener 27 - Neuadd Bentre, Llanuwchllyn.

Sir Drefaldwyn

Dydd Mawrth 24 - Cafe Maengwyn, Machynlleth  (9am - 11.30am)

Dydd Gwener 27 - Pen y Derw, Forden, Welshpool (9am - 11.30am)

Dydd Sadwrn 28 - Wynnstay Inn, Llansilin  (9am - 12pm)

Sir Benfro 

Dydd Mawrth 24 - Canolfan Hermon, Hermon (8am-10.30am) 

Dydd Gwener 27 - Crundale Hall, Crundale (8.30am-11am)