Golwythion Cig Oen gyda sbeis

Dyma rysáit hawdd yn defnyddio golwythion Cig Oen. Mae Cumin yn sbeis sy’n gweithio’n wych gyda chig Oen, ddim yn rhy sbeislyd, ond yn ddigon cryf i ddod a’r blas gorau allan o’r Cig Oen.

Bydd angen:

6 Golwyth o Gig Oen Cymreig

1kg Tatws Newydd

1 Clof o Arlleg- gratio neu dorri’n fan.

1 lemwn – croen wedi ei gratio yn fan, a sudd ar wahân.

2 llwy fwrdd o olew olewydd neu olew coginio ansawdd uchel (extra virgin) (mae olew Blodyn Aur yn gweithio’n dda)

Mintys Ffres wedi ei dorri’n fan.

1 llwy de o Cumin

Dull:

  1. Berwi’r tatws am 15 munud. Ar ôl draenio, cymysgu 1 llwy fwrdd o olew, y garlleg, croen y lemwn a’r cumin gan orchuddio’r tatws. Cadwch y gymysgedd yn y sosban gyda’r caead arni mewn lle cynnes.
  2. Rhwbio 1 llwy fwrdd o olew dros y golwythion cig oen, ynghyd a phinsiad o halen a phupur. Cynhesu padell addas, a choginio’r golwythion ar wres uchel am tua 4 munud ar bob ochr. Yn syth ar ôl tynnu’r badell oddi ar y gwres, tolltwch sudd y lemwn drostynt. Gadewch i orffwyso am o leiaf 5 munud cyn gweini.
  3. Cyn gweini, cymysgu’r mintys i mewn i’r sosban datws a gweini’r cyfan gyda Salad neu bys wedi eu berwi.