gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Bydd Aelodau am wybod fy mod wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, i dynnu sylw at y ffaith y byddai’r cyfnod yn arwain at ddiwedd cyfnod y Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) fel arfer yn gweld cyhoeddi llu o ddadansoddiadau, ymgynghoriadau a dogfennau eraill yn edrych ar weithrediad, llwyddiannau neu fel arall, y rhaglen, yn ogystal â chyfarfodydd rheolaidd gyda rhanddeiliaid.
Byddai'r rhain yn cael eu defnyddio i lywio gwahanol elfennau o raglen yn y dyfodol a sut y dylid dyrannu cyllid rhwng gwahanol flaenoriaethau, gyda gwybodaeth o'r fath yn cael ei choladu mewn dogfen raglen sylweddol a fyddai wedyn yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd i'w chymeradwyo; er enghraifft, mae dogfen rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 a gymeradwywyd gan Y Comisiwn Ewropeaidd tua 1,500 o dudalennau o hyd.
O dan reoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd, byddai'r modd y caiff rhaglen o'r fath ei gynnal a'i weithredu ei fonitro wedyn gan Bwyllgor Monitro Rhaglenni a swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd. Hefyd, efallai y byddai Cynulliad Cymru/Senedd ac Archwilio Cymru yn penderfynu craffu ar y rhaglen os yn addas i wneud hynny.
Wrth i Gymru nesáu at ddiwedd y cyfnod y mae’n rhaid gwario arian y Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, tynnon ni sylw’r Gweinidog at y ffaith ein bod yn pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen yn araf iawn o ran datblygu cynllun cynhwysfawr i gymryd lle’r Cynllun Datblygu Gwledig, ac ychydig iawn o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol sydd wedi digwydd mewn perthynas â datblygu cynllun o’r fath yn ei le.
Nododd ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir: Cynigion i barhau a symleiddio Cymorth Amaethyddol ar gyfer Ffermwyr a’r Economi Wledig Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020 tua deg tudalen o gynigion yn ymwneud â Chynigion Datblygu Gwledig Domestig.
Yn eu hymateb i ganlyniad yr ymgynghoriad, dywedodd Gweinidogion Cymru eu bod yn bwriadu cadw cenhadaeth, amcanion, blaenoriaethau a mesurau’r UE, gyda rhai diwygiadau – yn fras yn unol ag ymateb UAC i’r cynigion gwreiddiol.
Dywedwyd hefyd y byddai Bwrdd Cynghori ar Ddatblygu Gwledig yn cael ei sefydlu “i gynghori ar gynnwys a chyflawniad y rhaglen datblygu gwledig domestig ar sail anstatudol. Bydd dogfennaeth rhaglen newydd yn cael ei datblygu drwy ddull cydweithredol a bydd barn y bwrdd yn cael ei hystyried ym mhrosesau o wneud penderfyniadau.
Bydd rôl yr Awdurdod Rheoli yn cael ei chadw i oruchwylio a chefnogi’r bwrdd monitro datblygu gwledig, rhoi cyngor i Weinidogion Cymru a goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r rhaglen.”
Er bod UAC yn croesawu dull pragmatig ac esblygiadol o’r fath yn gyffredinol, rydym yn pryderu ynghylch y diffyg cynnydd dros y 26 mis ers cyhoeddi’r datganiad hwnnw, er gwaethaf y ffaith mai ychydig fisoedd yn unig sydd gan y Cynllun Datblygu Gwledig presennol ar ôl, a hyd y gwyddom ni, nid oes yna Fwrdd Ymgynghorol Datblygu Gwledig wedi'i sefydlu eto.
Fel y cyfryw, er bod UAC yn gwerthfawrogi bod rhai cyhoeddiadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu gwledig, mae cryn bryder bod agwedd tameidiog wedi datblygu gyda chynlluniau a mentrau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn datblygiad mewnol gan Lywodraeth Cymru, gydag ychydig iawn o fewnbwn gan rhanddeiliaid allanol ac arbenigwyr, ac nid rhaglen gynhwysfawr gyffredinol yn seiliedig ar dystiolaeth.
Fel y nodwyd uchod, ac a amlygwyd yn ein hymateb i ymgynghoriad 2020, mae’r diffyg prosesau craffu ymddangosiadol (o gymharu â Chynllun Datblygu Gwledig yr UE) o ran llunio Cynllun Datblygu Gwledig domestig a chynlluniau cysylltiedig â monitro eu cynnydd yn bryder. Rydym yn pryderu bod dylunio, asesu a phroses weinyddol fwy hamddenol bellach ar waith, yn debyg i’r prosesau sy’n gysylltiedig â chynlluniau Cronfeydd Ffyniant Gyffredin a Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, sydd, yn gwbl briodol, wedi denu beirniadaeth, gan gynnwys gennym ni a Llywodraeth Cymru.
At hynny, yn ein llythyr, pwysleisiwyd gennym fod UAC yn pryderu bod diffyg Cynllun Datblygu Gwledig domestig cynhwysfawr yn gosod Cymru mewn perygl o gael ei gwrthod gan Lywodraeth y DU, ar y sail na ddylent ddisodli cyllid Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) heb weld cynllun clir a thystiolaeth ar gyfer sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario cyllid o’r fath a sut y bydd o fudd i Gymru.
Fel y cyfryw, credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu ei datblygiad o Gynllun Datblygu Gwledig domestig a fydd, unwaith y bydd ar waith, yn cael ei fonitro’n briodol a’i graffu gan bwyllgor penodedig, tra hefyd yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ac yr ymgynghorir â hwy a’u cynnwys yn llawn yn y broses ddylunio ar gyfer rhaglen newydd.
Maes sy’n peri pryder uniongyrchol o ran cynlluniau penodol sy’n gweithredu o dan Gynllun Datblygu Gwledig presennol yr UE yw cynlluniau’r dyfodol ar gyfer y cynlluniau Glastir hynny sydd wedi’u hadnewyddu’n flynyddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn benodol y cynlluniau Glastir Uwch, Elfen Glastir Tir Comin a Glastir Organig.
Fel y gŵyr y Gweinidog, pan gyflwynwyd, roedd rhan allweddol o gyfres Glastir o gynlluniau yn cael eu hanelu at ddisodli’r cynllun Ardaloedd Llai Ffafriol, cynllun sy’n parhau i ariannu ein cystadleuwyr (er eu bod yn gynlluniau Ardal o Gyfyngiadau Naturiol o dan y derminoleg newydd) ledled yr UE yn ogystal ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Fel y cyfryw, mae’r ffaith bod nifer ffermwyr Cymru sy’n derbyn taliadau Glastir Uwch a’r Elfen Tir Comin bellach tua 24% o’r nifer a dderbyniodd daliadau ALFf yn peri pryder ers tro – yn enwedig o ystyried bod 92% o’r rhain yn rhai haen uwch o fewn cynlluniau a gynlluniwyd i gymryd lle Tir Gofal, tra nad oes unrhyw haen is yn lle Tir Mynydd ar waith.
Serch hynny, i’r rhai sydd â chontractau o’r fath, y mae llawer ohonynt wedi bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau o’r fath ers dros ugain mlynedd, ac wrth wneud hynny wedi cytuno i fforffedu cynhyrchiant hirdymor eu ffermydd er mwyn cynhyrchu buddion amgylcheddol canfyddedig, mae’r arian a dderbynnir yn flynyddol drwy Glastir wedi bod yn rhan hanfodol o incwm eu fferm ers amser maith.
Mae’n bryder sylweddol felly o ran cynaliadwyedd ariannol y ffermydd hynny nad oes unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud o ran ymestyn neu ddisodli’r cynlluniau hyn yn 2024. Mae hyn yn arbennig o bryderus o ystyried y buddsoddiad sydd ei angen a’r rhwystrau o adfer niferoedd stoc, ffrwythlondeb pridd a nodweddion fferm eraill a fydd yn y rhan fwyaf o achosion wedi cael eu herydu trwy gymryd rhan mewn cynlluniau o'r fath.
Credwn felly y dylai Llywodraeth Cymru roi’r sicrwydd sydd eu hangen ar ffermwyr o’r fath ar adeg sy’n hynod anwadal i’r diwydiant, a chyhoeddi estyniadau pellach i’r cynlluniau hynny neu gynlluniau newydd yn eu lle.
Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod gyda'r Gweinidog yn y dyfodol agos lle gobeithiwn drafod y pryderon hyn ymhellach.