Mae canlyniadau arolwg Siapio’r Dyfodol cyntaf AHDB, a roddodd gyfle i dalwyr lefi ddweud eu dweud, ar gael erbyn hyn.
Canlyniadau allweddol:
- Ymatebodd 42% o’r talwyr lefi cofrestredig i’r arolwg (cyfanswm o 4,478 o dalwyr lefi allan o’r 10,537 sydd wedi cofrestru)
- Roedd y sgorau cyfartalog yn amrywio o 2.3 allan o 5 i 4.8 allan o 5 (gyda 5 yn bwysicaf), gyda dim ond 3 sgôr cyfartalog is na 3 ar draws 70 o gwestiynau
- Mae holl aelodau’r cynghorau sector (aelodau newydd a rhai sydd ar eu hail dymor) wedi’u cymeradwyo, gan dderbyn dros 50% o’r pleidleisiau.
Trwy gydol Mehefin bydd aelodau cynghorau AHDB yn cwrdd i wneud penderfyniadau ariannu mewn perthynas â’r pum mlynedd nesaf o waith y byddant yn ei gyflawni ar gyfer talwyr lefi, yn seiliedig ar yr adborth o’r bleidlais.
Mae’r canlyniadau llawn ar gael yma.