Wrth i UAC nesáu at ei 60fed pen-blwydd, edrychwn yn ôl ar flwyddyn a welodd ostyngiad mewn prisiau wrth gât y fferm ac mewn incwm o’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol (CAP) yn cael effaith difrifol ar incwm ffermydd, ond o leiaf mae’r tywydd ffafriol yn golygu y byddwn yn mynd i mewn i 2015 gyda mwy o borthiant nag a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Bu 2014 yn flwyddyn pan wnaed cyhoeddiadau arwyddocaol - yng nghyswllt strwythur yr Undeb, gyda sefydlu Gwasanaethau Yswiriant Cyfyngedig a newidiadau eraill fel ei gilydd, ac i’r diwydiant amaeth yng Nghymru gyda nifer o gyhoeddiadau allweddol, nid y lleiaf ohonynt yn benodiad Rebecca Evans fel Dirprwy Weinidog amaethyddiaeth a bwyd ym mis Gorffennaf.
Fe wnaeth penodiad y Dirprwy Weinidog nodi trobwynt cadarnhaol yn nhermau cydnabod yr angen ar i’r llywodraeth a UAC gydweithio er lles y diwydiant tra’n derbyn hefyd y bydd peth gwahaniaethau barn yn bodoli’n barhaol. Beth bynnag fo’r gwahaniaethau hynny, neu’r heriau a wynebwn o ganlyniad i effaith ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, credaf ein bod ni’n mynd i mewn i 2015 mewn sefyllfa lawer cryfach, y naill fel y llall, ar gyfrif y parch rhwng y llywodraeth tuag at y diwydiant.
Bydd y cydsyniad barn a’r cydweithio yn holl bwysig dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth i ni gychwyn ar gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr o ganlyniad i gyflwyno rheolau parthed y Polisi Amaethyddol Cyffredinol (CAP) newydd a’r ansicrwydd a wnaeth ddilyn y diddymiad diweddar o’r llinell weundirol 400 metr yn dilyn adolygiad barnwrol llwyddiannus.
Mae’r CAP newydd yn cynrychioli cynnydd anferth yn y baich gweinyddol i ffermwyr ac adrannau llywodraethol fel ei gilydd, er gwaethaf ymrwymiad y Comisiwn Ewropeaidd i reolau symlach, ac fe wna’r rhain arwain at ôl-effeithiau i lawer o ffermwyr.
Mae UAC eisoes wedi amlygu pryderon sylweddol i’r Comisiynydd, y cyn-Weinidog Dros yr Amgylchedd, Phil Hogan, a chawn, yn ddiamau, y cyfle i godi’r pryderon wyneb yn wyneb pan wnawn groesawu’r Comisiynydd i Sioe Frenhinol Cymru yn 2015.
Yn y cyfamser mae’n hanfodol y bydd ffermwyr yn ymgyfarwyddo â’r rheolau newydd er mwyn isafu’r risg o golledion ariannol: mae 2015 yn flwyddyn gyfeirebol ar gyfer sefydlu hawliadau’r Cynllun Taliadau Sylfaenol, a bydd unrhyw gamgymeriadau – er enghraifft, lle gallai hawliwr fethu dangos rheolaeth ddigonol dros dir a fabwysiadwyd neu lle mae pori i’w rentu allan – arwain at golledion blynyddol parhaol.
Dylai unrhyw un sydd angen arweiniad ar y fath faterion gysylltu â’u swyddfa UAC leol lle cânt groeso ac, os yn ffodus, ganfod ychydig o fins peis dros ben!
Yn y cyfamser edrychwn ymlaen at flwyddyn pan fydd UAC yn dathlu trigain mlynedd o amddiffyn diddordebau aelodau, gan barhau i gyflenwi gwasanaethau gwerthfawr un-at-un ledled ei Swyddfeydd Sirol a lwyddodd i sicrhau mwy na hanner biliwn o bunnau i aelodau dros y degawd diwethaf yn unig.
Dymunwn i chwi oll 2015 hapus a llewyrchus.