Bydd aelodau’n cael cyfle i edrych ar sefyllfa bresennol y diwydiant amaethyddol ac ystyried y dyfodol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cangen Sir Meirionydd o Undeb Amaethwyr Cymru a gynhelir ar ddiwedd y mis.
Cynhelir y cyfarfod ar nos Wener Ionawr 30 am 7.30yh yng Nghlwb Rygbi Dolgellau a bydd siaradwyr y noson yn cynnwys Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy Ll?r Huws Gruffydd AC, Plaid Cymru, Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr Llywodraeth Cymru Andrew Slade, a Rheolwr fferm Hafod y Llan, Nant Gwynant a chyn Gyfarwyddwr Polisi UAC, Arwyn Owen.
Bydd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Huw Jones hefyd yn cyflwyno adroddiad byr o weithgareddau'r gangen yn ystod 2014 ar ddechrau'r cyfarfod.
"Unwaith eto, rydym yn apelio am gynrychiolaeth gref o aelodau o bob rhan o'r sir. Bydd y cyfarfod yn gyfle delfrydol i ystyried dyfodol y diwydiant yn y tymor byr a chanolig.”
Am fanylion pellach am y digwyddiad, mae modd ffonio 01341 422298 neu e-bostio