Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi cyfrannu at y diwydiant llaeth ac sy'n haeddu gwobr? Ydych chi wedi dod ar draws unigolyn sydd wedi mynd y tu hwnt i’w ddyletswydd yn y sector llaeth? A oes rhywun wedi creu argraff arnoch gyda'u llwyddiannau o fewn y sector llaeth, caws neu fenyn? Os felly, dyma gyfle gwych!
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn awyddus i gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig at ddatblygiad y sector llaeth ac sy’n rhan annatod o’r diwydiant yng Nghymru. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi a’i gyflwyno â’r wobr yn nigwyddiad Sioe Laeth Cymru ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin ar ddydd Mawrth 22 Hydref, 2024.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, David Waters: “Wrth edrych yn ôl rydym wedi cael rhai enwebiadau ac enillwyr teilwng iawn, gyda safon uchel ac enwau clodwiw o fewn y diwydiant yn y gorffennol.
“Felly os ydych yn adnabod person yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sy’n rhan hanfodol o’r sector yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu ar gyfer y wobr arbennig hon.”
I enwebu person, anfonwch lythyr neu daflen yn rhoi manylion llawn eu rȏl ar hyn maent wedi eu cyflawni gan e-bostio swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin
“Rydym yn awyddus i dderbyn mewnbwn o bob rhan o Gymru, gan unigolion a chymunedau gwahanol sy’n teimlo bod rhywun yn haeddu’r wobr hon. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr enwebiadau a chlywed barn unigolion ledled Cymru,” meddai David Waters.