Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol yn ei adroddiad ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’ a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Yn dilyn mewnbwn gan yr Undeb yn ystod datblygu’r gwaith, mae’r adroddiad yn argymell y ‘dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi amaethyddol. Dylid sicrhau cefnogaeth i’r fferm deuluol, a bod egwyddor pwysigrwydd y fferm deuluol yn cael ei hadlewyrchu mewn polisïau eraill megis polisi amgylcheddol.’
Yn ôl Ian Rickman, Llywydd FUW: “Gweledigaeth Undeb Amaethwyr Cymru yw sicrhau bod gennym ni gymuned o ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru. Y teuluoedd amaethyddol yma, sy’n byw a gweithio o fewn eu cymunedau, yw asgwrn cefn ardaloedd gwledig ac economi cefn gwlad Cymru.”
Mae sioeau amaethyddol sirol a sefydliadau cymdeithasol ac elusennau megis Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac adrannau ac aelwydydd yr Urdd wrth wraidd cynaliadwyedd y Gymraeg, treftadaeth a diwylliant Cymru.
“Fel y nodir yn yr adroddiad, mae 43.1%* o weithlu’r diwydiannau amaeth, coedwigaeth a physgota’n siarad Cymraeg - y gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o’r holl sectorau economaidd yng Nghymru.
“Mae argymhelliad y Comisiwn yn cyd-fynd yn llwyr â’n cred a’n gweledigaeth ni y dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog yn natblygiad polisi amaethyddol ac amgylcheddol, ac yn rhan annatod o unrhyw daliad ‘gwerth cymdeithasol’ ddaw drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
“Bydd unrhyw gynigion polisi yn y dyfodol sy’n niweidiol i fusnesau amaeth, cymunedau gwledig, neu i’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn fygythiad uniongyrchol i’r diwydiant sy’n cynnwys y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg,” meddai Ian Rickman
* data o Census 2021