Newidiadau arfaethedig i safonau trawsgydymffurfio rheoliadau llygredd dŵr (NVZ) yn achubiaeth i’r diwydiant amaeth, meddai Undeb Amaethwyr Cymru

Newidiadau arfaethedig i safonau trawsgydymffurfio rheoliadau llygredd dŵr (NVZ) yn achubiaeth i’r diwydiant amaeth, meddai Undeb Amaethwyr Cymru

Wrth i’r cyfnod clo ar gyfer gwasgaru slyri ar y rhan fwyaf o ffermydd Cymru ddod i ben (15 Hydref), mae Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud diwygiadau tymor byr i’r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio sy’n ymwneud â rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (NVZ).

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Ychydig fisoedd yn ôl, gwnaethom yn gwbl glir i Ysgrifennydd y Cabinet fod heriau amlwg ar y gorwel i ffermwyr Cymru oedd methu cydymffurfio â’r rheoliadau hyn oherwydd materion oedd y tu allan i’w rheolaeth. Dyna’r rheswm roeddynt yn debygol o gael eu dal yn y sefyllfa amhosib yma. Ar y pryd, gofynnwyd am ddiweddariad brys ar y mater ac i eithriadau gael eu hamlinellu'n glir yn y dogfennau Trawsgydymffurfio.

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru felly’n croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet gan ei fod yn cynnig achubiaeth i tua 800 o fusnesau amaethyddol sydd wedi gwneud cais am gymorth grant seilwaith, a’r llu o rai eraill sy’n parhau i wynebu heriau eraill, megis yr oedi mewn ceisiadau cynllunio ac argaeledd contractwyr adeiladu.”

Dywed datganiad y Llywodraeth: ‘Os oes unrhyw ffermwyr yn pryderu na fydd ganddynt y capasiti angenrheidiol i storio eu slyri yn ddiogel yn ystod y cyfnod gwaharddedig, a’u bod nhw wedi cymryd yr holl gamau sydd ar gael i atal yr angen i wasgaru pan fo'n amhriodol gwneud hynny, gan gynnwys yn ystod y cyfnodau caeedig, dylent gysylltu â CNC i nodi camau lliniaru priodol i leihau'r risg o lygredd…’

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio diwygiedig erbyn diwedd y mis. Bydd hyn yn cynnwys cosbau mwy cymesur lle gellir gwneud asesiadau llawn o gofnodion a lle nad yw diffyg cydymffurfio technegol yn peri risg llygredd. Caiff cosbau hefyd eu lleihau i’r rhai sydd wedi cymryd camau rhesymol i fodloni’r gofynion storio newydd ond nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cydymffurfio hyd at 1 Awst 2025.

Yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Rydym wedi clywed am lawer o ffermwyr yn derbyn cosbau dros y misoedd diwethaf oherwydd gwallau o fewn system or-gymhleth nad ydynt, o reidrwydd, yn cyflwyno risg llygredd ar lawr gwlad. Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd achosion amaethwyr sydd wedi eu cosbi ers 2021 yn cael eu hadolygu ar sail y safonau diwygiedig.

“Bydd y cyhoeddiad hwn yn sicr o leddfu’r straen a’r pwysau iechyd meddwl sydd ar nifer o ffermwyr Cymru, ac mae’r Undeb wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Dr Susannah Bolton ar adolygu’r rheoliadau hyn er lles y diwydiant ac ansawdd ein dyfroedd yng Nghymru,” meddai Ian Rickman.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Datganiad ysgrifenedig ar gael yma: Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 - Cyfnodau Gwaharddedig a newidiadau i'r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio SMR1: Diogelu Dŵr (15 Hydref 2024) | LLYW.CYMRU