Cynhaliodd Cangen Meirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru dri brecwast llwyddiannus iawn i gyfuno â digwyddiad blynyddol Wythnos Brecwast Fferm (Ionawr 25-31) - ymgyrch a drefnwyd ers y flwyddyn 2000 gan yr ‘Home Grown Cereals Authority’ (HGCA) .
Ar Ddydd Llun, Ionawr 26, cynhaliwyd brecwast gan Olwen a Nia Davies, T? Cerrig, yn Ysgol y Parc, ger Bala, ar Ddydd Iau Ionawr 29 gwnaeth Berwyn, Cerys a Beryl Hughes gynnal brecwast yn y Llew Coch, Dinas Mawddwy, a chynhaliwyd y brecwast olaf gan Dewi a Meinir Owen ar Ddydd Gwener Ionawr 30 yn Esgairgyfela, Aberdyfi.
“Diben y brecwastau oedd tynnu sylw at y manteision o fwyta brecwast iach a dod a’r gymuned at ei gilydd i drafod pynciau amaethyddol ac, wrth gwrs, i flasu’r gorau o gynnyrch Cymreig, ond yn ogystal i godi arian at elusennau dewisol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Mr Emyr Jones, sef T? Gobaith a T? Hafan”, meddai Swyddog Gweithredol Sirol Meirionnydd, Mr Huw Jones.
Ychwanegodd Mr Jones,“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi codi tua £1,150 yn y Sir tuag at yr elusennau, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi noddi’r digwyddiadau, i bawb a roddodd gymorth gyda’r trefniadau ac i bawb a fynychodd y brecwastau”.
[caption id="attachment_4366" align="aligncenter" width="300"] From left, Nia and Olwen Davies with some of the keen helpers.[/caption]
[caption id="attachment_4365" align="aligncenter" width="300"] From left, Lord Dafydd Elis Thomas AM, Dewi and Meinir Owen, FUW Insurance managing director Mark Roberts, FUW Meirionnydd county president Robert W Evans, North Wales Police rural crime officer Dewi Evans and FUW Meirionnydd county excutive officer Huw Jones.[/caption]
[caption id="attachment_4364" align="aligncenter" width="300"] From left, Beryl Hughes, FUW Meirionnydd county excutive officer Huw Jones, FUW president Emyr Jones, Plaid Cymru election candidate Liz Saville Roberts and Cynan, Ceris and Berwyn Hughes.[/caption]