Unwaith eto mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn hyrwyddo’r bwyd hyfryd a gynhyrchir yng Nghymru ac yn pwysleisio’r manteision o fwyta brecwast iachus yn ystod yr Wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol a gynhaliwyd rhwng Ionawr 25 a 31.
O ganlyniad i haelioni pawb ar draws y sir, llwyddodd y gangen nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o gynnyrch brecwast Cymreig gwych, ond hefyd i godi swm hollol ryfeddol o £7,000 ar gyfer sawl elusen. Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng elusennau’r Llywydd sef T? Hafan a T? Gobaith yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.
Cynhaliwyd saith digwyddiad ar draws y sir i gefnogi ymgyrch Wythnos Brecwast Ffermdy sydd bellach wedi cael ei drefnu’n flynyddol ers 2000 gan yr Awdurdod Ydau Cartref.
Bu Anwen Jones a Sara Evans, Lleuar Fawr, Penygroes; Anita Thomas, T?’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor; Annwen Williams, Hirdre Fawr, Tudweiliog; Ifora Owen, Glyn Uchaf, Tynygroes, Conwy; Rhian Jones, Cae’r Graig, Efailnewydd, Pwllheli; Eleri Roberts, Dylasau Uchaf, Padog ger Betws y Coed a Anne Franz yn ei chaffi ym Mryncir wrthi’n ddiwyd yn paratoi brecwastau Cymreig llawn a chroesawyd yr holl gefnogwyr, yn gymdogion a ffrindiau’n gynnes iawn.
Mae thema ymgyrch yr Awdurdod Ydau Cartref, ‘Bywiogi’ch Brecwast’ yn ein hannog i wneud newidiadau bach i’n trefn arferol yn y bore a gwneud yn si?r ein bod yn neilltuo amser i gael brecwast yn y bore. Y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl,” dywedodd swyddog gweithredol cangen sir Gaernarfon o UAC Gwynedd Watkin.
“Mae cael pryd o fwyd da i ddechrau’r diwrnod o gymorth i’r corff drwy weddill y dydd , a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy fwyta cynnyrch lleol.
“Wrth gynnal y brecwastau yma, rydym yn dod a’r gymuned at ei gilydd ac yn cynorthwyo mwy nag un achos da. Rwyf am ddiolch i’n staff, aelodau ac wrth gwrs y rheini sydd wedi sicrhau bod y brecwastau yma’n gymaint o lwyddiant, nid yn unig o safbwynt cynnyrch Cymreig ond ar gyfer ein helusennau haeddiannol,” ychwanegodd Mr Watkin.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch o galon i’r holl fusnesau sydd wedi rhoi bwyd ar gyfer y brecwastau, heb gymorth y busnesau yma, ni fyddai’n bosib codi swm mor anrhydeddus o arian: Hufenfa De Arfon; Cotteswold Dairies; Llaeth y Llan; Dafydd Wyn Jones, Cigydd, Caernarfon; O G Owen, Cigydd, Caernarfon; Harlech Frozen Foods, Four Crosses; Elystan Metcalf, Cigydd, Llanrwst; Siop Fferm Glasfryn; Asda; Ieuan Edwards, Cigydd, Conwy; John Williams a’i Fab, Cigydd, Llanfairfechan; Spar, Nefyn; Co-op, Llanfairfechan; Dafydd Povey, Cigydd Teuluol, Chwilog; K.E.Taylor, Cigydd, Cricieth; G.Williams a’i Feibion, Cigydd, Bangor; Ffrwythau a Llysiau DJ, Cricieth; Stermat, Gaerwen; A.L. Williams, Cigydd, Edern; Siop Min y Nant, Caernarfon; Ian Jones Wyau Penygroes; Popty’r Foel, Llanllyfni; Llechwedd Meats, Llangefni; Ann Williams, Bryn Teg, Tudweiliog; Gwen Jones, Ty’n Rhos, Tudweiliog; Swyddfa Bost Tudweiliog; Garej Morfa Nefyn; Moch Ll?n, Penarfynydd, Y Rhiw; Bryn Jones, Cig Ceirion, Cigydd, Sarn; G&S Supplies, Dinas; Oinc Oink, Llithfaen; Wyau Plas, Llwyndyrus; Becws Glanrhyd, Llanaelhearn; AF Blakemore, Bangor; Tesco; Morrisons; Welsh Lady, Four Crosses; Wyau Ochr Cefn Isaf, Ysbyty Ifan; Belmot, Llanddoged; Popty Tandderwen, Betws y Coed; L & R.O Jones, Cigydd Llanrwst; Bookers Cash & Carry, Cyffordd Llandudno; Ceri Owen, T? Mawr, Bryngwran; Dei Hughes, Pencraig Uchaf, Betws y Coed; Becws Islyn, Aberdaron; Popty Pen Uchaf, Ysbyty Ifan; Popty Lleuar, Penygroes a Tractorau Emyr Evans,” ychwanegodd Mr Watkin.
[caption id="attachment_4675" align="aligncenter" width="300"] Anita Thomas (red apron) with Eleri, Jan and Eirwen ably assisted by Osian[/caption]
[caption id="attachment_4674" align="aligncenter" width="300"] Anwen Jones, Sara Evans, Elliw Evans, Gwenda Evans and Bethan Lloyd Jones hosted the Lleuar Fawr breakfast[/caption]
[caption id="attachment_4673" align="aligncenter" width="300"] Ifora Owen (red striped apron) with her team of Ruth, Margaret, Eleri, Mair and Margaret.[/caption]