Bwrlwm UAC yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

Bydd arddangosfa liwgar o hanes y Gadair yn ffurfio stondin Undeb Amaethwyr Cymru (stondin 613-614) yn yr Eisteddfod Genedlaethol sydd i’w chynnal ym Meifod, Sir Drefaldwyn (Awst 1-8).

“Fel Undeb, rydym yn falch o’n cysylltiad hir gyda’r Eisteddfod ac rydym, unwaith eto, yn edrych ymlaen at gefnogi’r ?yl sy’n dathlu diwylliant a bywyd Cymreig,” dywedodd cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams.

“Bydd cyfle i ymwelwyr y stondin weld arddangosfa liwgar a ffeithiol ar hanes Cadair yr Eisteddfod a hefyd gweld lluniau o’r gwahanol Gadeiriau Eisteddfod mae UAC wedi noddi dros y blynyddoedd.”

Cyflwynir y Gadair am awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 llinell, dan y teitl ‘Gwe’ ar ddydd Gwener yr Eisteddfod (Awst 7). Noddwyd y Gadair eleni gan gangen Sir Drefaldwyn o UAC a bydd gwneuthurwr y Gadair Carwyn Owen ar stondin UAC dydd Mercher (Awst 5) i sôn am ei gampwaith fel crefftwr y Gadair ieuengaf erioed.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu aelodau a ffrindiau’r Undeb i ymuno gyda ni ar y stondin dydd Sadwrn (Awst 1) i fwynhau BBQ er mwyn cwrdd â’n swyddog gweithredol sirol newydd am 5yp.

“Dydd Llun (Awst 3) byddwn yn rhoi samplau llaeth am ddim ac yn dechrau’r gystadleuaeth “Ble mae Tegwen?” am yr wythnos.

“Bydd modd i blant bigo sgwâr ar fwrdd rhifau lliwgar i ddyfalu lle aeth ar goll ar ei thaith o gwmpas Cymru.

“Bydd pob sgwâr yn costio £1 a bydd yr arian a godir yn mynd tuag at elusen y Llywydd a bydd £100 ar gyfer yr enillydd lwcus” ychwanegodd Mr Williams.

Bydd yr Undeb hefyd yn torri cacen pen blwydd i ddathlu ei phen blwydd yn 60 mlwydd oed ac mae’n gwahodd aelodau a ffrindiau’r Undeb i ymuno gyda ni am 2.30yp ar y dydd Mercher.

“Bydd cynrychiolydd o RABI yn bresennol ar y stondin yn ddyddiol ac edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o Yswiriant FUW yn ystod yr wythnos,” ychwanegodd Mr Williams.

Bydd yna groeso cynnes a lluniaeth ysgafn i bawb i’w mwynhau, a bydd aelodau o staff cangen sir Drefaldwyn wrth law i drafod materion amaethyddol cyffredinol.