Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymuno gyda’r prosiect ‘Cynefin’ i arddangos mapiau degwm, gan gynnwys lleoliad yr Eisteddfod, gyda gwybodaeth am enwau hanesyddol y caeau, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol eleni (Awst 1-8) ac amryw o sioeau amaethyddol eraill.
Prosiect arloesol wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yw Cynefin gyda’r nod o ddigido mapiau degwm Cymru i gyd.
Mae’r prosiect yn awyddus i ddenu gwirfoddolwyr i drawsgrifio mapiau degwm ynghyd a’r atodlenni sy’n enwi tir feddianwyr a deiliaid, defnydd tir ac enwau caeau.
“Mae’n ddiddorol bod y modd caiff enwau caeau eu cofnodi yn 1840au ar gyfer pwrpas y degwm yn debygi’r ffordd caiff enwau caeau eu cofnodi heddiw fel rhan o’r broses ffurflen taliad sengl.” Dywedodd rheolwr prosiect Cynefin Einion Gruffudd.
“Edrychwn ymlaen at gyd-weithio gyda phrosiect Cynefin trwy gydol tymor y sioeau trwy arddangos amrywiaeth o fapiau degwm yn nifer o sioeau amaethyddol ar hyd a lled Cymru ac annog ymwelwyr i’r stondin wirfoddoli i helpu gyda’r trawsgrifio,” dywedodd cyfarwyddwr polisi UAC Dr Nick Fenwick.
“Bydd arddangosfa newydd yn yr Eisteddfod eleni – Y Lle Hanes- a fydd yn canolbwyntio ar hanes lleol.
“Yn yr arddangosfa o hanes lleol, bydd ymwelwyr yn gallu astudio sawl map degwm Sir Drefaldwyn, gan gynnwys map enfawr o ardal Meifod, sydd wedi ei gyfuno gyda mapiau llai o blwyfi a threflannau lleol gyda chymorth gwirfoddolwyr.
“Bydd mapiau’r degwm yn helpu ymwelwyr yr Eisteddfod i ddysgu am bentrefi a thai coll Cymru,” ychwanegodd Mr Gruffudd.
Yn stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru, caiff rhannau o fapiau degwm Llanycil a Llanfor eu harddangos sy’n dangos y ddaear a foddwyd yn 1965 i greu cronfa Llyn Celyn.