[caption id="attachment_5558" align="aligncenter" width="225"] Prif Weithredwr BHF Simon Gillespie gyda llywydd UAC Glyn Roberts[/caption]
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgelu’n swyddogol taw Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (BHF) yw’r achos elusennol newydd am y ddwy flynedd nesaf.
Wrth gyhoeddi hyn ddydd Mawrth yn yr Eisteddfod (Awst 4), dywedodd llywydd UAC Glyn Roberts “Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi dewis Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru fel ein hachos elusennol nesaf yn dilyn enwebiadau gan ein staff a ffrindiau’r undeb.
“Sefydliad y Galon yw elusen calon y genedl ac sy’n bennaf gyfrifol am ariannu ymchwil cardiofasgwlaidd. Clefyd coronaidd y galon yw’r clefyd sy’n lladd y mwyaf o bobl ac mae ymchwil arloesol wedi trawsnewid bywyd y rhai sy’n dioddef o glefyd y galon a phroblemau yn ymwneud a chylchrediad y gwaed. Mae gwaith y BHF wedi bod yn rhan hanfodol o’r dasg o ganfod triniaethau angenrheidiol ym mrwydr y DU yn erbyn clefyd y galon.
Rwy’n sicr fel undeb y medrwn drechu ein ffigwr diwethaf o £50,000, swm y cyflwynwyd yn ddiweddar i hosbisau plant, T? Hafan a T? Gobaith ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r elusen.”
Sefydlwyd y BHF ym 1961 gan gr?p o weithwyr meddygol proffesiynol a oedd am ariannu ymchwil ychwanegol i achos, diagnosis, triniaeth ac atal clefyd y galon a phroblemau cylchrediad, ac wedi hanner canrif ryfeddol o ddatblygiad gwyddonol a chymdeithasol, meant wedi trawsnewid hanes clefyd y galon.
Dywedodd pennaeth codi arian cymunedol BHF yng Nghymru Siôn Edwards: “Rydym wrth ein bodd mae BHF Cymru yw elusen Undeb Amaethwyr Cymru am y ddwy flynedd nesaf a’u bod nhw’n ymuno gyda ni yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon - prif laddwr pobl Cymru.
“Bydd yr arian sy’n cael ei godi gan Undeb Amaethwyr Cymru o gymorth yn ein rhaglen ymchwil o’r radd flaenaf sydd wedi cyfrannu at rai o’r datblygiadau mwyaf anhygoel o drin ac atal clefyd cardiofasgwlaidd, ond, yn anffodus, bydd y frwydr yn erbyn clefyd y galon yn parhau."