UAC Sir Drefaldwyn yn noddi cadair yr Eisteddfod

[caption id="attachment_5452" align="aligncenter" width="300"]Aelod UAC Wyn Owen a’i fab Carwyn. Aelod UAC Wyn Owen a’i fab Carwyn.[/caption]

[caption id="attachment_5453" align="aligncenter" width="300"](ch-dd) Wyn Owen; cyn swyddog gweithredol sirol, cangen sir Drefaldwyn o UAC Susan Jones; un o hoelion wyth UAC Gareth Vaughan; cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams ac is lywydd UAC Richard Vaughan. (ch-dd) Wyn Owen; cyn swyddog gweithredol sirol, cangen sir Drefaldwyn o UAC Susan Jones; un o hoelion wyth UAC Gareth Vaughan; cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams ac is lywydd UAC Richard Vaughan.[/caption]

Mae Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei noddi gan gangen sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael ei throsglwyddo i drefnwyr yr Eisteddfod eleni (Awst 1-8).

Ugain oed yw Carwyn Owen o Rhiwfelen, Foel, Y Trallwng ac mae’r teulu wedi bod yn amaethu yno ers y 1960au.  Mae’n debyg mae ef yw’r person ieuengaf erioed i fod yn gyfrifol am greu cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Cefais gyfleoedd lu i ddatblygu fy nghrefft wrth fod yn aelod o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, a sbardunwyd fy niddordeb yng ngwaith coed diolch i fy nhaid Bryn, sydd hefyd wedi creu nifer o gadeiriau ar gyfer yr Eisteddfod,” dywedodd Mr Owen.

“Cefais fy ysbrydoli gan harddwch naturiol y pren a mynyddoedd yr ardal, gan stemio a phlygu’r pren er mwyn fy ngalluogi i ail-greu siâp y mynyddoedd yn y Gadair.

Roedd fy nheidiau ar y ddwy ochr yn grefftwyr coed brwd, ac roeddwn yn ddigon ffodus i etifeddu gweithdy llawn gan un taid pan oeddwn i'n ifanc, a dysgodd fy nhaid arall fi am y grefft o greu pethau hardd allan o goed”, ychwanegodd Mr Owen.

Yn siarad ar ôl cyflwyno’r Gadair, dywedodd cadeirydd cangen sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams: “Mae Carwyn wedi gwneud gwaith gwych ac rydym yn falch fel undeb ein bod yn noddi’r Gadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

“Mae hanes maith tu ôl i’r berthynas agos rhwng UAC a’r Eisteddfod ac wrth gwrs cysylltiad teulu’r Owen o wneud Cadeiriau’r Eisteddfod.

“Mae’n rhaid i fi ddiolch i’n cyn swyddog gweithredol sirol Susan Jones am dynnu sylw’r Eisteddfod at deulu’r Owen gan fod Carwyn wedi cyflawni gwaith gwych.

“Mae gan Carwyn brofiad helaeth o greu cadeiriau ar gyfer eisteddfodau, yn gyntaf fel cystadleuydd ac yna cafodd y cyfle i greu Cadair Eisteddfod y CFfI a hefyd y Gadair ar gyfer Eisteddfod Powys, a hyn oll tra yr oedd dal yn yr ysgol.

“Mae’r undeb wastad wedi bod yn gefnogol o’r Eisteddfod a’r hyn y mae’n ei chynrychioli, ac eleni eto rydym yn falch o gefnogi’r iaith, diwylliant a bywyd Cymreig,” ychwanegodd Mr Williams.