Tîm newydd UAC wrth y llyw

[caption id="attachment_5375" align="aligncenter" width="1024"]Y tim newydd wrth y llyw (ch-dd) Brian Walters, Richard Vaughan, Brian Thomas, Eifion Huws, Glyn Roberts, Dewi Owen a Brian Bowen Y tim newydd wrth y llyw (ch-dd) Brian Walters, Richard Vaughan, Brian Thomas, Eifion Huws, Glyn Roberts, Dewi Owen a Brian Bowen[/caption]

Yn dilyn etholiad Mr Glyn Roberts fel llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod cyffredinol yr undeb ddydd Llun (Mehefin 15), cafodd gweddill aelodau’r pwyllgor cyllid a threfn eu datgelu heddiw.

Dirprwy Mr Roberts fydd y ffermwyr bîff a defaid o sir Benfro Brian Thomas sy’n gyn gadeirydd yr undeb yn Sir Benfro a chyn aelod o bwyllgor tenantiaid canolog UAC.

Cafodd Brian ei ethol fel aelod de Cymru o bwyllgor cyllid a threfn ganolog yn 2011 ac yn is lywydd UAC yn 2013.

Yn siarad wedi ei benodiad newydd, dywedodd Brian Thomas: “Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio i mi fod yn ddirprwy lywydd nesaf yr undeb.  Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda’n cyn llywydd Emyr Jones ac edrychaf ymlaen nawr at weithio gyda’n llywydd newydd Glyn Roberts.”

Mae gan Mr Thomas fuches o wartheg eidion byrgorn pedigri a diadell o 300 o ddefaid yn ogystal â thyfu 80 erw o rawnfwydydd ar ei fferm 280 erw sef Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach.

Ym 1996 pan wnaeth argyfwng BSE daro'r diwydiant, daeth Brian yn un o'r prif ymgyrchwyr yn Ne Orllewin Cymru a fu'n gwrthwynebu'r cam o fewnfudo cig eidion israddol i Gymru.  Ym 1997, arweiniodd gr?p o 10 ffermwr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru a'u hannerch am y ffordd annheg yr oeddent yn trin y diwydiant.

Mae TB yn fater y mae Brian yn teimlo'n angerddol amdano.  Pan ddioddefodd ei fuches y clefyd tua diwedd y 1990au, dywedodd mewn cyfweliadau y byddai'r clefyd yn fwy o broblem nag y byddai BSE erioed os na fyddai sylw yn cael ei roi iddo.  Yn anffodus, fe'i profwyd yn gywir i nifer, ac ar hyn o bryd, mae'n eistedd ar y gweithgor lleol ar gyfer Ardal Weithredu Ddwys y Cynlluniad ynghylch TB yng Ngogledd Sir Benfro, gan gynrychioli ffermwyr yn yr ardal.

Cafodd y ffermwr llaeth o Sir Gaerfyrddin ei ail-ethol fel un o’r tri is lywyddion ynghyd ac Eifion Huws, ffermwr llaeth o Sir Fôn a Richard Vaughan, ffermwr defaid o Dywyn, Meirionnydd.

Mae Brian Walters yn ffermio daliad 500 erw, gyda’i wraig Ann a’u ddau fab, Aled a Seimon ger Caerfyrddin. Mae ganddynt fuches laeth o 150 o wartheg - rhai ohonynt yn warthog pedigri swydd Ayrshire - ynghyd â 200 o wartheg ifanc a 80 o wartheg bîff.  Maent hefyd yn rhedeg uned wyliau ffermdy hunanarlwyo, gan ymfalchïo mewn addysgu ymwelwyr yngl?n â’r problemau a’r pleserau sydd ynghlwm wrth ffermio.

Mae gan Mr Vaughan diadell o 750 o famogiaid Mynydd Cymreig ac oddeutu 30 o wartheg stôr ar Fferm Pall Mall i’r gogledd o Dywyn, sy’n un o ddau daliad sy’n ymestyn i 550 erw.  Mae mwyafrif y tir ym Mhant y Panel a Prysglwyd, Rhydymain ger Dolgellau

Mae Pall Mall wedi llwyddo i arallgyfeirio dros y 40 mlynedd diwethaf.  Fe droswyd adeiladau allanol, adeiladwyd ‘chalets’ a sefydlwyd maes carafanau sydd erbyn hyn a thros 100 o unedau.  Mae hefyd wedi datblygu busnes llwyddiannus o brynu ac yna adnewyddu tai yn Aberystwyth i’w gosod fel fflatiau a ‘bed-sits’.  Mae Richard yn gweld hwn yn rhan pwysig o’r busnes ac yn dod â incwm ychwanegol gwerthfawr heb olygu gormod o amser oddi ar y fferm.

Mae wedi bod yn gefnogwr brwd a gweithgar iawn o Undeb Amaethwyr Cymru ers sawl blwyddyn.  Bu’n Gadeirydd Cangen Meirionnydd o’r undeb rhwng 2007 a 2009 ac yn Gadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol canolog yr undeb rhwng 2006 a 2011.  Bu Richard yn aelod gogledd Cymru ar y pwyllgor Cyllid a Threfn canolog ers 2010 cyn cael ei ethol yn is gadeirydd ym mis Mehefin 2011.

 

Mae Mr Huws wedi bod yn aelod gweithgar o’r pwyllgor cyllid a threfn ers pum mlynedd.  Mae’n ffermio ym Mhenrhos, Bodedern, fferm laeth sydd â buches o 140 o wartheg pedigri Swydd Ayrshire sydd â chofnod cynhyrchu ac arddangos neilltuol

Mae Mr Huws yn feirniad gwartheg Swydd Ayrshire hir sefydlog ac yn uchel iawn ei barch ac wedi teithio ledled y wlad ac yn Ewrop er mwyn cynrychioli’r diwydiant llaeth yn y gobaith o sicrhau gwell amodau a phrisiau i ffermwyr.

 

Ail-etholwyd Mr Brian Bowen fel aelod de Cymru ac mae Mr Dewi Owen yn ymuno a’r pwyllgor cyllid a threfn fel aelod gogledd Cymru.

 

Bu Mr Bowen yn is gadeirydd siroedd Brycheiniog a Maesyfed o 2008 a cafodd ei ethol fel cadeirydd y sir yn 2010. Mae wedi bod yn gynrychiolydd Brycheiniog a Maesyfed ar bwyllgor da byw, gwlân a marchnadoedd UAC ers 2009 ac yn is gadeirydd presennol y pwyllgor.

 

Mae Mr Bowen yn ffermio fferm Pencoedcae, Princetown, ger Tredegar lle mae’n cynnal uned gymysg o fuchod sugno a defaid mynydd.  Mae'r fferm yn 150 erw o dir ac yn  rhentu 1000 erw arall a 1200 erw o hawliau tir comin ar dri darn gwahanol o dir comin .  Mae’n rhedeg y fferm  gyda’i dad, ei fam a'r mab.

 

Brian yw Cadeirydd Cymdeithas Tir Comin Llangynider ac yn Gadeirydd y pwyllgor Glastir ar gyfer Cymdeithas Tir Comin Llangynider.  Mae’n aelod gweithredol o Gymdeithasau Tir Comin Buckland Manor a Thir Comin Gelligaer a Merthyr, yn ogystal â chyn Gyfarwyddwr ar fwrdd Cwmni Cydweithredol Ffermwyr  Gelli ac Aberhonddu.

 

“Rydw i'n hynod o falch bod Brycheiniog a Maesyfed wedi fy nghynnig fel cynrychiolydd i'w ethol i'r Pwyllgor Cyllid a Threfn Canolog, ac o'r farn bod fy nghenhedlaeth i yn gyfrifol am sicrhau bod amaethu teuluol yn parhau yng Nghymru a'i fod yn ddeniadol i'r genhedlaeth iau.

 

“Ar ôl bod yn aelod De Cymru ar y pwyllgor Cyllid a Threfn ers blwyddyn bellach, rwyf yn hyderus fy mod yn cyfrannu’n effeithiol i waith yr Undeb, ac rwy’n hapus iawn i barhau yn y rôl flaenllaw hon i wynebu’r sialensiau a’r newidiadau mawr sydd o’n blaenau,” ychwanegodd Mr Bowen.

 

Cafodd Mr Dewi Owen, Esgairgyfela, Aberdyfi ei eni a’i fagu ar y fferm deuluol, fferm fynydd sydd yn cadw defaid a gwartheg.

 

Mae wedi bod yn aelod gweithgar o UAC ers oddeutu deugain mlynedd, ac wedi bod yn Gadeirydd Sir Meirionnydd, a Llywydd Sirol yn y gorffennol.

 

Mae Mr Owen yn berchen ar siop cigydd ym mhentref Aberdyfi, a caiff ei redeg ar y cyd gyda’i fab yng nghyfraith sydd yn gigydd cymwysedig.

 

“Credaf fod UAC yn lais cryf dros ffermwyr Cymru a diolchaf i bawb sydd wedi pleidleisio i fi er mwyn ymuno gyda’r pwyllgor cyllid a threfn fel aelod gogledd Cymru.  Yn ystod fy nghyfnod gyda’r undeb rwyf wedi bod yn aelod o sawl pwyllgor ac edrychaf ymlaen at gynrychioli safbwyntiau ein haelodau,” dywedodd Mr Owen.