[caption id="attachment_5372" align="aligncenter" width="682"] Llywydd UAC Glyn Roberts[/caption]
Cafodd dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts ei ethol yn llywydd yr undeb yn ystod cyfarfod y prif gyngor yn Aberystwyth ddoe (Llun, Mehefin 15).
Dywedodd Mr Roberts, o fferm Dylasau Uchaf, Padog ger Betws-y-Coed: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio i mi fod yn llywydd nesaf Undeb Amaethwyr Cymru.
"Mae gennym ni ddyled fawr i'r cyn llywydd Emyr Jones am ei arweinyddiaeth dros y pedair blynedd diwethaf ac wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o ymladd dros ffermydd teuluol, ac edrychaf ymlaen at ddilyn ôl troed fy rhagflaenwyr."
“Fel llywydd yr undeb hon, rwyf am weld y cyfleoedd mewn anawsterau yn hytrach na gweld anawsterau mewn cyfleoedd ac am ehangu’r gymuned amaethyddol gynaliadwy ymhellach sy’n parhau i fod yn asgwrn cefn ein cymunedau a diwylliant gwledig.”
Ym 1976 gorffennodd gwrs llawn amser yng Nglyn Llifon, a gan nad oedd yn fab fferm, aeth i weithio fel bugail yn Nylasau Uchaf, Padog.
Ym 1977, bu Glyn yn llwyddiannus yn ei gais am denantiaeth fferm fynydd 100 erw, Ynys Wen, Ysbyty Ifan ac yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd hefyd yn rhan amser yn Nylasau Uchaf.
Ym 1983, sicrhaodd Mr Roberts denantiaeth Dylasau Uchaf, fferm 350 erw o dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae’n parhau i ffermio gyda’i wraig, Eleri. Mae gan y ddau bump o blant, tri ohonynt wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, ac mae dau ohonynt yn fyfyrwyr yno ar hyn o bryd.
Bu Mr Roberts yn aelod gogledd Cymru o Bwyllgor Cyllid a Threfn UAC o 2003 I 2004; is lywydd UAC o 2004 i 2011, a cafodd ei ethol yn ddirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 2011.
Bu’n gadeirydd sir Gaernarfon rhwng 1999 a 2002; cadeirydd cangen Llanrwst o 1990 i 1994; cadeirydd pwyllgor dwyieithrwydd a chyhoeddusrwydd o 2001 i 2004, ac yn gynrychiolydd Sir Gaernarfon ar Bwyllgor Tenantiaeth ganolog UAC a phwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri rhwng 1998 a 2002 a hefyd yn aelod o Gyngor UAC rhwng 1994 a 2002.
Hefyd Glyn yw Trysorydd Cymdeithas Tenantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ystâd Ysbyty Ifan ers 1993 ac yn Ysgrifennydd Treialon Cwn Defaid Ysbyty Ifan ers 1998.
Mae Glyn wedi darlithio ar faterion amaethyddol ar sawl achlysur, a’i uchafbwynt personol oedd darlithio ar ddyfodol yr Ucheldir yng Nglynllifon ym 1997 gan rannu llwyfan gyda phennaeth adran amaeth, Prifysgol Cymru Aberystwyth, yr Athro Mike Haines a John Cameron o’r Alban.
Mae Mr Roberts hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o raglenni teledu a radio ar amaethyddiaeth.
Rhwng 2006 a 2008 Glyn oedd cynrychiolydd UAC ar fwrdd Hybu Cig Cymru ac yn 2008, cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd Hybu Cig Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bu Carwyn Jones AC yn ymweld â Dylasau Uchaf ac Ysbyty Ifan ym mis Ionawr 2001 a Mr Roberts oedd yn gyfrifol am baratoi dogfen gynhwysfawr yn edrych ar y cysylltiad anochel rhwng amaethyddiaeth a dyfodol cymunedau gwledig “Pwysigrwydd Amaethyddiaeth yng nghymunedau gwledig”.
Arweiniodd Mr Roberts gr?p cyntaf UAC o sir Gaernarfon i Frwsel i drafod dyfeisiau Adnabod Electronig ym mis Hydref 2000.
Enillodd Glyn gystadleuaeth Rheolaeth Fferm yr Eisteddfod Genedlaethol wrth greu cynllun tair blynedd ym mis Awst 1992 ar adeg pan oedd Coleg Glynllifon yn wynebu’r posibilrwydd o orfod cau. Cafodd Glyn ei ddewis yn un o dri aelod o weithgor i edrych ar y posibiliadau o’i gadw ar agor.