[caption id="attachment_5830" align="aligncenter" width="589"] (Ch-Dd) John Owen Troedrhiwlasgrug, Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC, Gweinidog Cysgodol dros Amaeth Llyr Gruffydd AC ac Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts [/caption]
Croesawodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts, Leanne Wood AC, arweinydd Plaid Cymru, a Gweinidog Cysgodol dros Amaeth Ll?r Gruffydd AC, i ymweliad fferm yn Nhroedrhiwlasgrug ger Stad ddiwydiannol Glanyrafon yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn Hydref 24 yn ystod cynhadledd Plaid Cymru.
Mae Mr a Mrs John a Beryl Owen yn ffermio Troedrhiwlasgrug ers 1982. Mae’r fferm eidion a defaid yn ymestyn dros 1000 o aceri sy’n cynnwys mynydd Dinas ym Mhonterwyd ac sy’n caniatáu i’w diadell o 400 o ddefaid magu a 500 o ?yn bori dros fisoedd yr haf. Maent hefyd yn cadw 15 o wartheg sugno. O’r cyfle cyntaf yn 2011 mae’r fferm wedi bod yn rhan o gynllun amaeth amgylcheddol Llywodraeth Cymru ‘Glastir’, ac ers hynny wedi dyrchafu i’r cynllun ‘Glastir Uwch’.
Ers cael ei ethol yn Lywydd mae Glyn Roberts wedi datgan droeon ei flaenoriaeth a’i ddyhead i bontio’r gwagle rhwng gwlad a thref fel modd i gryfhau'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts; “Mae’r diwydiant wedi gweld ac yn parhau i ddioddef yn sgil prisiau anwadal y farchnad sydd bellach yn bygwth bywoliaeth teuluoedd amaethyddol.
“Pwy a pha le gwell i gyfleu fy mlaenoriaeth fel Llywydd, na fy mod i, ffermwr o Ysbyty Ifan, yn cael tywys arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood o’r Rhondda o gwmpas fferm Mr a Mrs Owen sydd wedi ei lleoli yng nghanol stad ddiwydiannol. Dwi’n angerddol mai’r ffordd ymlaen yw edrych tuag at ddyfodol cynaliadwy a sefydlog i amaethyddiaeth Cymru. Dwi’n ffyddiog bod yr ateb i’w gael o fewn Cymru ac mai’r cam cyntaf yw uno pobol Cymru i gefnogi’r diwydiant.”
Wrth gerdded trwy glos y fferm, gyda bwrlwm y stad ddiwydiannol yn gefndir, eglurodd John Owen am ei rwystredigaeth parhaol gyda’r prisiau cig oen gwael. Trafododd gyda Leanne Wood am yr angen i wneud mwy i hybu’r cynnyrch yma sydd o’r safon uchaf i gwsmeriaid Cymreig.
Dywedodd Leanne Wood; “Mae’r diwydiant amaethyddol yn mynd trwy gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd. Gyda phrisiau gwael cig coch a llaeth yn ei gwneud yn anodd i nifer o ffermwyr oroesi.
“Dwi’n credu bod gan ffermwyr gefnogaeth cwsmeriaid Cymreig, ond nid yw’r gefnogaeth yn dangos ym mhrisiau giât y fferm.”
Diwedd