Cyfarfod Blynyddol UAC Caernarfon i drafod dyfodol y diwydiant cig coch a llaeth

Bydd cyfarfod cyffredinol blynyddol cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn trafod dyfodol y diwydiannau cig coch a llaeth ar nos Wener Tachwedd 6.

Cynhelir y cyfarfod yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn am 7.30yh.

Dywedodd swyddog gweithredol sirol Caernarfon Gwynedd Watkin: “Edrychwn ymlaen at groesawu Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon Alan Jones a chadeirydd Hybu Cig Cymru Dai Davies i roi cyflwyniadau ar yr hyn mae eu sefydliadau wedi ac yn bwriadu ei wneud i hybu’r sectorau llaeth a chig coch yn y dyfodol.

“Mae’n gyfnod diddorol i’r diwydiant amaethyddol.  Mae’r sector cig coch wedi dioddef yn sgil prisiau gwael eleni a bydd hi’n ddiddorol clywed sut mae HCC yn ymdrin â hyn ar ran cynhyrchwyr cig eidion ac oen Cymreig. Rydym hefyd yn awyddus i glywed beth sy’n cael ei wneud i leihau’r ffordd annheg y mae cyfran fawr o daliadau lefi ffermwyr Cymreig yn mynd ar draws y ffin i Loegr am ?yn a anwyd a magwyd yng Nghymru.

“Mae’r diwydiant llaeth hefyd wedi dioddef yn sgil prisiau isel a’r farchnad anwadal ac maent yng nghanol amser tywyll eto.  Rydym am i broseswyr megis Hufenfa De Arfon drafod eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi clywed mae nid problem y DU na UE yn unig yw’r farchnad anwadal, mae’n broblem ar draws y byd ac yn un fydd yn parhau.  Felly, rwy’n si?r bydd ein haelodau’n awyddus iawn i glywed sut mae’r cwmni cydweithredol ffermwyr llaeth Cymreig mwyaf a’r hynaf sy’n dyddio’n ôl i 1938 yn mynd i ddal gafael yn ei lle yn y farchnad laeth.”

Mae’r undeb am ddiolch i HSBC am noddi’r achlysur ac yn croesawu Uwch Reolwr Amaethyddol HSBC Bryn Edmunds i’r noson.

“Bydd y noson yn gyfle i aelodau glywed sylwadau Alan Jones a Dai Davies ar ddyfodol y diwydiant i ofyn cwestiynau perthnasol wrth gwrs.  Bydd hefyd cyfle i drafod unrhyw faterion arall,” ychwanegodd Gwynedd Watkin.

Mae angen i’r rhai hynny sy’n dymuno dod i’r cyfarfod roi enwau i’r swyddfa sir drwy gysylltu â 01286 672541 erbyn dydd Mercher Tachwedd 4.  Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar ddiwedd y cyfarfod.