[caption id="attachment_5854" align="aligncenter" width="1024"] Cyn Lywydd Emyr Jones (i’r dde bellaf) yn croesawu'r Arglwydd a’r Boneddiges Morris i Lyfrgell Dolgellau lle cafodd plac ei roi ar Fai 11 2006 pan ddathlodd cangen sir Meirionnydd 50 mlynedd ers cael ei ffurfio.[/caption]
Fel cynghorydd cyfreithiol a dirprwy ysgrifennydd cyffredinol rhwng 1956 a 1958, bu’r Arglwydd Morris o Aberafan yn allweddol i ffurfiant UAC, ac ef fydd y siaradwr gwadd yng nghinio dathlu penblwydd yr undeb yn 60 oed ym mis Rhagfyr.
Cangen Sir Gaerfyrddin o’r undeb sy’n trefnu’r cinio a gynhelir ar nos Fawrth Rhagfyr 8 yng Nghanolfan Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin am 7yh.
“Cynhelir y cinio ar yr union ddyddiad y cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o Bwyllgor Dros Dro UAC 60 mlynedd yn ôl, fel y cofnodwyd yn “Teulu’r Tir - Hanes Undeb Amaethwyr Cymru 1955-1992 gan Handel Jones,” dywedodd swyddog gweithredol cangen Sir Gaerfyrddin David Waters.
“Yr Arglwydd Morris gychwynnodd a golygu rhifynnau cynnar papur newydd yr undeb ‘Y Tir’ ac mi deithiodd filoedd o filltiroedd yn ffurfio canghennau sirol ac yn rhoi cyngor cyfreithiol ar draws Cymru.
“Nid oes amheuaeth roedd cyfnod yr Arglwydd Morris fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwbl allweddol i ffurfiant a datblygiad UAC ac edrychwn ymlaen at ei groesawu fel siaradwr gwadd yn y cinio i ddathlu ein penblwydd yn 60 oed.
Mae tocynnau ar gyfer y pryd tri chwrs yn £25 yr un ac ar gael o bob swyddfa sir UAC.