Heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn atgoffa ffermwyr bod rhaid i’r rhai hynny sy’n defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion ar gyfer defnydd proffesiynol ar eu tir eu hunain neu ar dir eu cyflogwr gael tystysgrif cymhwysedd ar ôl dydd Iau Tachwedd 26.
Cyn Tachwedd 26, roedd yna eithriad yng nghyfraith y DU yn caniatáu pobl a anwyd cyn Rhagfyr 31 1964 i ddefnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion heb dystysgrif.
“Bydd angen i bawb sydd am ddefnyddio rhain gael hyfforddiant ac ennill cymhwyster priodol er mwyn defnyddio offer megis chwynlychwr, chwistrellydd b?m neu chwistrellydd cefn pan ddaw’r ‘Hawliau tad-cu’ i ben,” dywedodd cadeirydd pwyllgor addysg a hyfforddiant UAC Alun Edwards.
Mae’r undeb hefyd am bwysleisio y bydd hi’n drosedd i unrhyw un brynu cynhyrchion amddiffyn planhigion a awdurdodwyd i’w defnyddio’n broffesiynol oni bai bod gan y defnyddiwr dystysgrif cymhwysedd ar ôl y dyddiad penodol ym mis Tachwedd.
Hefyd mae UAC yn cynghori eu haelodau, i ystyried triniaethau arall cyn mynd ati i wneud unrhyw waith chwistrellu, a defnyddio rheiny lle’n bosib. Mae’n rhaid cadw at reoliadau trawsgydymffurfio a rheolau cynefin Glastir ac opsiynau rheoli yngl?n â defnyddio plaladdwyr.
“Mae’n bwysig hefyd i wneud asesiad risg o’r safle ble fydd y cemegion yn cael eu trin, yn enwedig ble mae’r gwaith o lenwi a glanhau'r offer yn digwydd. Os defnyddir yr un safle yn rheolaidd, byddwch yn ymwybodol y gall hyn, yn hawdd iawn, fod yn ffynhonnell i lygru d?r difrifol.
Os ydych yn defnyddio ‘induction hoppers’ wrth lenwi’r chwistrellwyr, mae’n bwysig cael cynhwysydd i ddal unrhyw ddiferion a deunydd amsugno megis tywod, blawd llif ayyb i amsugno unrhyw beth sy’n gollwng.
“Cofiwch fod angen trin a chael gwared ag unrhyw ddeunyddiau wedi eu heintio yn briodol, gall y gwastraff yma hefyd fod yn wastraff peryglus.” ychwanegodd Alun.
Am fwy o gyngor ar sut i gael gwared a gwastraff peryglus, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru.