Aelodaeth yr UE, newydd-ddyfodiaid a’r Ddeddf Gyllid 2015 ar frig yr agenda yng nghyfarfod blynyddol UAC Sir Ddinbych

[caption id="attachment_5897" align="aligncenter" width="300"]Cadeirydd UAC Sir Ddinbych John Roberts a Llywydd UAC Sir Ddinbych  Iwan Jones gyda Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant Hybu Cig Cymru  John Richards, Rhys Harris, cyfrifydd o Owain Bebb a’i Gwmni, Eifion Bibby o Davis Meade a Cyfarwyddwr Padog Farms Ltd Dafydd Wynne Finch Cadeirydd UAC Sir Ddinbych John Roberts a Llywydd UAC Sir Ddinbych Iwan Jones gyda Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant Hybu Cig Cymru John Richards, Rhys Harris, cyfrifydd o Owain Bebb a’i Gwmni, Eifion Bibby o Davis Meade a Cyfarwyddwr Padog Farms Ltd Dafydd Wynne Finch[/caption]

Daeth aelodau o gangen sir Ddinbych o Undeb Amaethwyr Cymru ynghyd mewn cyfarfod blynyddol diweddar i drafod aelodaeth yr UE, newydd-ddyfodiaid a’r Ddeddf Gyllid 2015.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal nos Lun Tachwedd 9 yn Brookhouse Mill a croesawyd Cyfarwyddwr Padog Farms Ltd Dafydd Wynne Finch; Rhys Harris, cyfrifydd o Owain Bebb a’i Gwmni; Eifion Bibby o Davis Meade a Swyddog Gweithredol Gwybodaeth y Diwydiant Hybu Cig Cymru John Richards fel siaradwyr gwadd y noson.

“Er gwaethaf y tywydd gwael, daeth nifer dda o’n aelodau i’r cyfarfod a cafwyd trafodaeth ddiddorol ac amrywiol.  Roedd hi’n braf clywed nifer o gwestiynau’n cael eu holi gan yr aelodau, a oedd yn amrywio o ydi hi’n well i ni aros mewn yn yr UE neu beidio i gwestiwn yngl?n â sut i gael ffermwyr ifanc nôl i’r diwydiant,” dywedodd swyddog gweithredol UAC Sir Ddinbych a Fflint Mari Dafydd Jones.

Mae gan UAC farn glir iawn ar aelodaeth o’r UE ar ôl hir gydnabod gwerth aros yn rhan o un o farchnadoedd cyffredin a’r cyfuniadau masnachu mwyaf, ac o ystyried y difrod anadferadwy a achoswyd i fusnesau fferm a bwyd oherwydd ein gwaharddiad o farchnad yr UE yn ystod yr argyfyngau BSE a chlwy’ traed a'r genau sy’n brawf o’r peryglon sy’n deillio o waharddiad gan Ewrop.

“Rydym i gyd yn ymwybodol bod yna ddigonedd o bobl ifanc brwdfrydig sydd am gamu mewn i’r diwydiant ac rydym hefyd yn gwybod bod yna rai sy’n edrych ar ddyfodol eu ffermydd sydd ddim o reidrwydd am roi’r gorau i bopeth, felly roedd yn dda cael cyfle i drafod olyniaeth yn agored gyda’n aelodau,” ychwanegodd.

Roedd cyflwyniad Mr Finch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd grwpiau trafod yn natblygiad y diwydiant drwy ddysgu sgiliau i bobl a rhannu gwybodaeth.  Hefyd, bu’n trafod olyniaeth. Trafododd John Richards brisiau ?yn, strategaethau marchnata HCC ac Ewrop; cyflwynodd Mr Harris y Ddeddf Gyllid 2015 a thrafododd y 10 prif bwynt gan gynnwys y newidiadau i lwfansiau cyfalaf ac elw cyfartalog.  Siaradodd Mr Bibby am brynu a rhenti tir, Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) a masnachu hawliau.

“Rwyf am ddiolch i’r siaradwyr a’r aelodau am fynychu noson lwyddiannus tu hwnt a gobeithio eu bod nhw oll wedi mwynhau cymaint â wnes i.  Roedd hi’n hyfryd gweld aelodau newydd yn y cyfarfod a gobeithio y gwelwn ni nhw eto’n fuan,” ychwanegodd Mari.