Cyn etholiadau diwethaf y Cynulliad yn 2011, roedd ein maniffesto yn rhybuddio am y sialensiau digynsail a oedd yn wynebu Aelodau’r Cynulliad a’r Llywodraeth newydd.
Pum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r sialensiau hynny’n parhau, tra bod eraill yn cynyddu. Ond mae’r arian cyhoeddus sydd ar gael er mwyn ymdrin â’r fath sialensiau yn parhau i ostwng a hynny yn sgil llawer o ansicrwydd. Yr un mwyaf blaenllaw yw'r posibilrwydd y bydd y DU yn tynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd.
Gydag oddeutu 35 y cant o boblogaeth Cymru’n byw mewn ardaloedd gwledig, dylai’r golled posib neu’r dirywiad i bolisïau’r UE sy’n cael eu hanelu ar hyn o bryd i gefnogi ein cymunedau gwledig a busnesau amaethyddol fod o bryder mawr i’n gwleidyddion.
Ond yn hytrach na theimlo bod pryderon o'r fath yn cael sylw a llunio cynlluniau wrth gefn, mae yna bryder go iawn o fewn ein cymunedau bod y ffocws o osod deddfwriaeth newydd ac o bosib costus ar unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus ar adeg pan mae incwm gwledig o dan bwysau difrifol.
Mae’r llyfryn Incymau Fferm ddiweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015 yn mynd i beri gofid, nid yn unig i ffermwyr, ond i unrhyw un sy’n cymryd diddordeb yn ein cymunedau gwledig ac economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond mae’r ffigyrau yna’n berthnasol i flwyddyn ariannol 2014-15, ac rydym yn gwybod y bydd ffigyrau eleni yn waeth o lawer.
Mae’r fath ostyngiadau’n ddibwys o gymharu â’r difrod fyddai yn ein cymunedau petai ni’n colli ein marchnadoedd allforio UE, y dirywiad pellach neu waredu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), a llacio masnach, oll yn gynigion sy’n cael eu crybwyll gan rai pleidiau’r DU a hynny heb asesu’r effaith posib o wneud hynny.
Yn ogystal â gwaith pwysig arall a’r blaenoriaethau a amlinellwyd yn y maniffesto yma, bydd ymgymryd â’r fath asesiad cyn gynted a phosib gyda’r Cynulliad nesaf yn hanfodol os ydym am sicrhau bod ni mewn sefyllfa i fedru lobïo yn hytrach na derbyn y newidiadau yn oddefgar a bod cynlluniau wrth gefn yn cael eu llunio.
Yn bennaf oll o blith ein pryderon yw ein hymadawiad o’r UE. Mae UAC yn parhau i wrthwynebu hyn er gwaethaf ein rhwystredigaeth ynghylch ei amherffeithrwydd.
Nid yw’r Undeb yn gysylltiedig gydag unrhyw blaid wleidyddol, ac felly mae gennym gyfrifoldeb i weithio gyda’r llywodraeth gyfredol a’r gwrthbleidiau, beth bynnag fo eu daliadau gwleidyddol.
Am gyfnod y Cynulliad Cenedlaethol nesaf a thu hwnt mae UAC yn ymroi i lobïo'r holl rai hynny sydd yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn derbyn y sylw a’r parch sy’n ddyledus iddynt - er mwyn dyfodol pawb.