[caption id="attachment_5996" align="aligncenter" width="300"] Tegwen visits TyCoch Primary school, Tycroes, Ammanford[/caption]
Mae buwch laeth UAC, Tegwen, sydd wedi ei pheintio yn lliwiau’r faner Gymreig ac sydd wedi bod ynghanol ymgyrch UAC i sicrhau pris teg am laeth wedi bod yn ymweld â phlant ysgol yn sir Gaerfyrddin er mwyn dod ac ychydig o gefn gwlad mewn i’r ystafell ddosbarth.
Wrth ymweld â phlant dosbarth derbyn ysgol gynradd TyCoch, Tycroes, Rhydaman, roedd Tegwen yn dangos o ble daw cynnyrch llaeth.
Roedd athrawes ysgol gynradd TyCoch Valerie Davies yn awyddus i gynnal gwers ryngweithiol ar wartheg godro a’i cynnyrch yn dilyn ymweliad a Fferm Folly ac roedd UAC yn falch iawn i dderbyn y gwahoddiad.
Cynhaliodd rheolwr marchnata ac aelodaeth UAC Caryl Roberts wers ryngweithiol, gan ddefnyddio deunydd addysgiadol o wefan ‘Countryside Classroom’ a FACE Cymru (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) i blant y dosbarth derbyn yngl?n â llaeth a ffermio gwartheg godro yn ogystal â chyflwyno Tegwen a cynnig samplau o gaws cheddar lleol a tri math o laeth i flasu.
[caption id="attachment_5994" align="aligncenter" width="237"] FUW marketing and membership manager Caryl Roberts brought samples of local cheddar for the children at TyCoch Primary school[/caption]
Dywedodd Caryl Roberts: “Mae’n hanfodol bod plant yn dysgu o’r cychwyn cyntaf o ble daw eu bwyd.
“Nid yn unig mae'n ehangu eu dealltwriaeth o darddiad bwyd a diod, ond hefyd yn rhoi cipolwg iddynt o’u cymuned wledig.”
"Roedd yr adnoddau gan ‘Countryside Classroom’ a FACE Cymru yn ei gwneud yn hawdd i mi baratoi gwers addas ar gyfer y plant. Roedd y samplau o gaws a gynhyrchir yn lleol yn wobr am wrando mor astud."
Mae gan UAC ymroddiad hir dymor i gynorthwyo plant i ddysgu am fwyd, ffermio a'r amgylchedd naturiol ac mae'n awyddus i helpu ymhellach drwy ddod a chefn gwlad mewn i'r ystafell ddosbarth ysgolion ledled Cymru.
Mae deunydd addysgiadol am ddim ar wefan ‘Countryside Classroom’ http://countrysideclassroom.org.uk/ ac mae deunyddiau dwyieithog ar gael o wefan FACE Cymru http://www.face-cymru.org.uk/
Mae’r deunydd wedi cael ei rannu yn ôl cyfnod allweddol neu oedran mewn amrywiaeth o fformatau megis gemau, gweithgareddau, cwisiau a chyflwyniadau.