[caption id="attachment_7289" align="alignleft" width="300"] Enillydd y categori Cymraeg oedd Savanna George, 10 oed o Ysgol Henry Richard, Campws Cynradd, Tregaron.[/caption]
Mae elusen y Llywydd, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi elwa o gystadleuaeth ysgolion cynradd Cymru i ddylunio carden Nadolig gyda thema amaethyddol a drefnwyd gan yr Undeb.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant ysgubol gan ddenu cannoedd o gystadleuwyr ar draws Cymru. Roedd y safon yn eithriadol o uchel a oedd tipyn o dasg yn wynebu’r beirniaid wrth bigo’r enillwyr.
“Rwyf am ddiolch i bob plentyn a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth ac i ddweud ni fyddai’r gystadleuaeth wedi bod cymaint o lwyddiant heb eu gwaith nhw. Rwy’n ddiolchgar hefyd i staff yr ysgolion fu’n cynorthwyo UAC gyda’r gystadleuaeth yma.
“Cafodd plant y dref a’r wlad gyfle i ymgysylltu gyda’r diwydiant amaethyddol a mynegi beth maent yn ei deimlo mewn ffordd greadigol a lliwgar yn dangos pam bod #AmaethAmByth. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni fel ffermwyr yn cadw cysylltiad agos gyda phobl ifanc a bod nhw’n deall sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn y wlad yma.”
Roedd y gystadleuaeth mewn dau gategori, cynlluniau Cymraeg a Saesneg. Enillydd y categori Cymraeg oedd Savanna George, 10 oed o Ysgol Henry Richard, Campws Cynradd, Tregaron. Roedd ei chynllun buddugol yn dangos cyfres o anifeiliaid lliwgar yn gwisgo hetiau Nadolig, ac yn dangos y slogan ‘Amaeth Am Byth’.
Enillydd y categori Saesneg oedd Caleb Vater, 9 oed o St Nicholas House, Christ College, Aberhonddu. Roedd ei gynllun buddugol yn dangos ffermwr yn gyrru tractor ar draws cae gyda llaeth a thatws, yn ogystal â choeden Nadolig ar y trelar. Roedd y goeden wedi cael ei haddurno gyda llysiau.
[caption id="attachment_7290" align="alignright" width="300"] The winner of the English category was Caleb Vater, 9, of St Nicholas House, Christ College, Brecon.[/caption]
Mae’r ddau yn ennill tocyn rhodd gwerth £30 i’w hunain, pecyn o gardiau yn dangos eu cynllun nhw a siec o £50 i’w hysgol.
Mae’r cardiau hefyd ar gael i'w prynu o swyddfeydd sir UAC ar draws Cymru neu o brif swyddfa'r undeb yn Aberystwyth am £5 am becyn o 10.