[caption id="attachment_7273" align="alignright" width="300"] Ffermwyr ifanc UAC Ceredigion yn trafod #AmaethAmByth gyda Dunbia.[/caption]
Daeth ffermwyr ifanc Ceredigion ynghyd yn ddiweddar i drafod #AmaethAmByth a dyfodol allforion cig oen gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia (Llanybydder) Paul Edwards a’r Rheolwr Amaethyddol Alison Harvey.
Cafodd y cyfarfod, a drefnwyd gan gangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru, ei gynnal ar y safle yn Llanybydder a chlywyd sut mae’r ffatri’n mynd o nerth i nerth ers cymryd yr awenau oddi wrth Oriel Jones yn 2001.
Heddiw, mae gan safle Llanybydder le ar gyfer 300 tunnell, gan gynnwys lle i ladd 33,000 o ?yn bob wythnos ac yn cyflogi oddeutu 600 o bobl.
Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Roedd y cyfarfod yn wych ac yn gyfle i’n ffermwyr ifanc gael cyfle i glywed beth yw dyfodol ein hallforion h?yn o safbwynt y prosesydd.
“Trafodwyd nifer o bynciau amaethyddol gan gynnwys Brexit, sut i gael mwy o gig oen ar gael yma, Rheoliadau TSE a’r diweddaraf ar allforio ein cig oen ni i’r Unol Daleithiau.
Yn dilyn y trafodaethau, cafwyd cip olwg ar y ffatri gan ddilyn y broses yn llawn o’r lladd i’r pecynnu.
“Roedd gweld y ffatri yn ddiddorol iawn, buaswn yn argymell i bawb weld y broses lawn o ladd i becynnu’r cynnyrch terfynol,” ychwanegodd Mared Rand Jones. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia (Llanybydder) Paul Edwards: “Mae’n bwysig ein bod ni fel cadwyn gyflenwi yn cysylltu gyda’n gilydd, ac mae croesawu gr?p o ffermwyr ifanc i’r ffatri yn ffordd wych o wneud hynny.
“Nid oes dim byd gwell na gweld y cynnyrch a chyfarfod y bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol yn y busnes. Mae bob amser yn werthfawr i gysylltu gyda phobl ifanc y diwydiant a chlywed beth sydd ganddynt i’w ddweud.
“Cawsom drafodaeth dda cyn gweld y ffatri, ac roedd hi’n galonogol i glywed eu brwdfrydedd a’u hangerdd tuag at hybu Cig Eidion ac Oen Cymreig a hynny drwy gysylltiad agosach rhwng y cynhyrchydd, prosesydd a’r cwsmer.”