[caption id="attachment_7375" align="alignleft" width="300"] Aelod UAC Steve Smith yn rhoi sioc i Annie fel rhan o’r hyfforddiant cymorth cyntaf.[/caption]
Roedd ffermwyr Sir Drefaldwyn yn poeni am eu diffyg gwybodaeth o gymorth cyntaf sylfaenol a defnyddio diffibriliwr yn dilyn achos trist iawn yn y farchnad leol.
Er mwyn cynyddu eu hyder a’i gwybodaeth o sut i ymdrin â thrawiad ar y galon, aeth cangen Sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru ati i wahodd Parafeddyg ac Ymatebwr Cyntaf o’r Trallwng Ianto Guy i’w cyfarfod sir i gynnal sesiwn ar gymorth cyntaf.
Yn ystod y sesiwn, pwysleisiodd Mr Guy y pwysigrwydd o wybodaeth cymorth cyntaf sylfaenol, yn enwedig ar gyfer ffermwyr a thrafodwyd gyda’r aelodau beth i’w wneud petai nhw’n gweld rhywun yn cael trawiad ar y galon.
Gan ddefnyddio ‘Annie’, dangoswyd i’r ffermwyr dau fath gwahanol o ddiffibriliwr ac esboniwyd sut y maent yn gweithio a sut i’w defnyddio.
[caption id="attachment_7376" align="alignright" width="300"] Ianto Guy yn cynorthwyo Cadeirydd y Sir Mark Williams ac aelod UAC Alwyn Watkin gyda’u sgiliau cymorth cyntaf.[/caption]
Dywedodd Emyr Wyn Davies, Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn: “Hoffwn ddiolch i Mr Guy am y sesiwn am ddim, a oedd yn ddefnyddiol tu hwnt i’n haelodau. Roedd yn wych cael ychydig o hyfforddiant ymarferol a cawsom i gyd y cyfle i ddefnyddio’r diffibriliwr ac ymarfer cywasgiadau i’r frest. Dangosodd Ianto hefyd sut i berfformio CPR.
“Rydym oll yn teimlo’n fwy hyderus i roi cymorth cyntaf sylfaenol i rywun sy’n cael trawiad ar y galon diolch i’r ymarfer hyn.”
Dywedwyd wrth y ffermwyr hefyd lle oedd diffibrilwyr yn cael eu cadw yn eu cymunedau lleol.
Fel diolch i Mr Guy, cyfrannodd cangen Sir Drefaldwyn £100 i Ymatebwyr Cyntaf Y Trallwng.
[caption id="attachment_7377" align="aligncenter" width="300"] Ianto Guy yn dangos i ffermwyr sut i ddefnyddio Diffibriliwr.[/caption]