Beth well na phryd da o fwyd i ddod a phobl ynghyd i rannu syniadau, ac oherwydd bod Undeb Amaethwyr Cymru am barhau i sicrhau bod llais amaethyddiaeth Cymru’n cael ei glywed ar bob lefel, mae ffermydd ar draws Cymru yn eich gwahodd chi i’w ceginau (Ionawr 22-29)
“Mae angen i wleidyddion, rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd ddeall pwysigrwydd y sector bwyd a diod i’n bywydau bob dydd, ac felly rydym am fwynhau cynnyrch gwych lleol i frecwast fel rhan o’n hymgyrch wythnos brecwast.
“Ond, rydym am i chi fod yn rhan o hyn a rhannu eich syniadau a’ch gofidiau am gyflwr y diwydiant, rydym am glywed eich hanesion chi a helpu ni i ddeall sut mae modd i ni helpu’n gilydd,” meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.
Mae’r ymgyrch brecwast yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r bwydydd gwych lleol sy’n cael ei dyfu ar ein cyfer bob dydd o’r flwyddyn, ac yn ystod wythnos brecwast, bydd UAC yn rhoi’r chwyddwydr ar bwysigrwydd ein heconomi wledig.
“Bydd y penderfynwyr yn ymuno gyda ni i weld rôl allweddol ffermwyr o gynnal ein cymunedau gwledig, cynnal sector amaethyddiaeth hyfyw a proffidiol ac wrth gwrs cynhyrchu bwyd gwych,” ychwanegodd Mr Roberts.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UAC wedi bod yn brysur yn pwysleisio pam bod amaeth o bwys - nid yn unig o ran diogelu'r cyflenwad bwyd, ond hefyd o ran ein heconomi a’n cymunedau gwledig.
Dros y deuddeng mis diwethaf, mae llu o fusnesau ar draws y wlad wedi bod yn ein cefnogi i drosglwyddo’r neges yma i’n gwleidyddion, a thrwy ymweliadau fferm, trafodaethau a chyfarfodydd, mae’r Undeb wedi sicrhau bod pawb yn deall pam bod #AmaethAmByth.
“Ond, rydym am barhau gyda’r gwaith hwnnw, ac am eich gwahodd chi i ymuno gyda ni am frecwast o amgylch bwrdd y gegin. Bydd ffermydd ar draws Cymru yn eich croesawu chi i’w ceginau lle bydd cynhyrchwyr, aelodau a’n gwleidyddion lleol yn ymuno gyda ni. Felly, ewch ati i sicrhau eich lle o amgylch un o’r byrddau a helpwch ni i ddangos pam bod #AmaethAmByth,” dywedodd Glyn Roberts.
Os ydych am ragor o wybodaeth am leoliad brecwastau yn eich ardal chi, am noddi rhai o’r cynnyrch neu am gynnal brecwast fel rhan o Wythnos Brecwast UAC, cysylltwch â’ch Swyddog Gweithredol Sirol.
Dyma leoliadau a dyddiadau’r brecwastau:
Ynys Môn -
Gwener, Ionawr 27, Cartio Môn, Bodedern
Brycheiniog a Maesyfed -
Iau, Ionawr 26, Talwen Fawr, Garthbrengy
Gwener, Ionawr 27, Pafiliwn Llanwelwedd, Maes y Sioe, Llanelwedd
Caernarfon -
Sadwrn, Ionawr 21, Meillionydd Bach, Rhoshirwaun, Pwllheli
Llun, Ionawr 23, Ty’n Hendre, Talybont, Bangor
Dydd Mawrth, Ionawr 24, Llys Padrig, Y Ffor, Pwllheli, Gwynedd
Gwener, Ionawr 27, Dylasau Uchaf, Padog, Betws-y-Coed, Conwy
Gwener, Ionawr 27, Caffi Ann, Marchnad Bryncir, Bryncir, Garndolbenmaen
Ceredigion -
Iau, Ionawr 26, Neuadd Goffa Felinfach, Llambed
Gwener, Ionawr 27, La Calabria, Rhydgoch, Ffostrasol, Llandysul
Sir Gaerfyrddin -
Iau, Ionawr 26, Clwb Rygbi Pontiets
Gwener, Ionawr 27, Pumpkin Patch, Caerfyrddin
Sir Ddinbych -
Gwener, Ionawr 27, Neuadd y Groes , Dinbych
Sadwrn, Ionawr 28, Neuadd y Pentref Gwytherin
Sir Fflint -
Sadwrn, Ionawr 28, Neuadd y Pentref Cilcain
Morgannwg -
Gwener, Ionawr 27, Lesser Hall, High Street, Cowbridge
Gwent -
Iau, Ionawr 26, Fferm T? Oakley, Hafodyrynys, Crymlyn
Gwener, Ionawr 27, Neuadd y Pentref Llanellen, Llanellen, Llan-ffwyst, Y Fenni
Meirionnydd -
Sadwrn, Ionawr 21, Castell Hen, Parc, Y Bala
Llun, Ionawr 23, Canolfan Siop y Pentref, Llanfrothen
Mercher, Ionawr 25, Llew Coch, Dinas Mawddwy
Iau, Ionawr 26, Marchnad Dolgellau
Gwener, Ionawr 27, Tymawr, Carrog, Corwen
Sadwrn, Ionawr 28, Neuadd Llanegryn
Sir Drefaldwyn -
Llun, Ionawr 23, Trewythen, Llandinam
Gwener, Ionawr 27, Pen Y Derw, Ffordun
Sir Benfro-
Gwener, Ionawr 27, Neuadd Cryndal, Cardigan Road, Cryndal, Hwlffordd