[caption id="attachment_7797" align="alignleft" width="300"] Byron Davies MP, FUW President Glyn Roberts and Craig Williams MP[/caption]
Pwysleisiodd swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn nhermau amaethyddiaeth, yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Dorïaidd Cymru yng Nghaerdydd.
Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Rhaid i amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru fod yn broffidiol ac yn gynaliadwy. Yng Nghymru y fferm deuluol yw conglfaen llawer o’n hamaethyddiaeth a’n ffordd o fyw. Yn fwy o lawer felly nag yn Lloegr. O ganlyniad, rhaid inni sicrhau bod rôl ffermydd o’r fath yng nghefn gwlad Cymru’n cael ei chydnabod.
“Mae amaethyddiaeth yng Nghymru’n sylfaenol wahanol yn nhermau angen, cynnyrch a phwysigrwydd cymdeithasol. Dyna pam na allwn ni felly gael polisi ar gyfer Lloegr yn bennaf wedi inni adael yr UE. Mae angen i Lywodraeth y DU werthfawrogi’r gwahaniaeth a sicrhau bod y p?er yn mynd o Frwsel i Lywodraeth Cymru, yn ddelfrydol o fewn fframwaith DU newydd.”
Pwysleisiodd Llywydd yr Undeb hefyd mai Undeb Amaethwyr Cymru yw’r unig Undeb sy’n siarad ar ran ffermwyr Cymru’n unig, heb ofn na ffafriaeth, a heb ei llyffetheirio gan fuddiannau ariannol neu allanol.
O ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol a’r dyfodol aneglur sy’n wynebu ffermio, meddai, rhaid cofio pam bod Undeb Amaethwyr Cymru’n bodoli. “Ffurfiwyd yr Undeb yn 1955 pan nad oedd llais ffermwyr Cymru’n cael ei glywed yn Llundain. Mi fyddwn ni’n gwneud yn si?r nad yw’r llais hwnnw’n disgyn ar glustiau byddar eto.
[caption id="attachment_7798" align="alignright" width="300"] Byron Davies MP, Darren Millar AM, FUW Gwent CEO Glyn Davies, Nick Ramsey AM and Paul Davies AM[/caption]
“Felly dyna’n union y byddwn ni’n dal ati i’w wneud – byddwn yn brwydro i sicrhau dyfodol ffermio yng Nghymru a’r busnesau hynny sy’n cael incwm o amaethyddiaeth. Gadewch inni gofio bod cynnyrch gros amaethyddiaeth yng Nghymru bron yn £1.5 biliwn, ac mae allforion bwyd a diod yn werth £302 miliwn i economi Cymru.
“Mae yna bethau’n digwydd mewn perthynas â gadael yr UE. Er y bydd y ffocws ar brif ystyriaethau a thrafodaethau gadael yr UE, mae yna faterion hanfodol sydd angen eu datrys o fewn y DU trwy drafodaeth a chytundeb gyda’r gwledydd datganoledig.
[caption id="attachment_7799" align="alignleft" width="300"] David Melding AM with FUW President Glyn Roberts[/caption]
“Ond, mi allwn ni weithio ochr yn ochr, a pharhau i gynllunio’n dyfodol yma, gartref, a dyna pam dwi’n annog ein cyrff datganoledig i weithio’n agos â’i gilydd, ac ar fyrder, i ddatblygu’r fframwaith amaethyddiaeth sydd ei angen ar y DU, ychwanegodd Glyn Roberts.
Aeth Llywydd yr Undeb ymlaen i ddweud: “Os ydyn ni’n gwerthfawrogi’n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cefn gwlad, ein treftadaeth, ein hysgolion a’n swyddi, yna rhaid inni eu gwarchod.
“Mae modd inni sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector ar ôl inni adael yr UE, ac mae digon o gyfleoedd y gellir eu harchwilio, ond mae llawer yn dibynnu ar barodrwydd ein gwleidyddion i gydnabod pa mor wahanol yw ffermio ar draws y gwledydd datganoledig, a pha mor wahanol yw eu hanghenion.”