[caption id="attachment_7816" align="aligncenter" width="300"] Lawnsiad ‘Llafur Cefn Gwlad'.[/caption]
Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru fod ffermwyr Cymru a’r Deyrnas Unedig ymhlith y gorau sydd ar gael, a gwnaeth apêl i gryfhau’r berthynas rhwng y cynhyrchydd a’r cwsmer yng Nghynhadledd Wanwyn flynyddol y Blaid Lafur yn Llandudno.
Meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Cawsom amser gwych yma heddiw yng Nghynhadledd y Blaid Lafur, yn sgwrsio â phobl ac yn dweud wrthyn nhw am y gwaith gwych mae ein ffermwyr yn ei wneud bob dydd o’r flwyddyn. Mae ein ffermwyr ni ymhlith y gorau ac maen nhw’n cynhyrchu bwyd gwych ar ein cyfer trwy’r flwyddyn gron.
“Dim ond 52% yn hunangynhaliol ydyn ni o ran cynhyrchu bwyd yn y DU ac rydym am wneud yn si?r bod ein cwsmeriaid yn gallu parhau i fwynhau’r bwyd a gynhyrchir yma, a pheidio â gorfod poeni am fewnforion o dramor sydd o safon amheus ac ansawdd israddol.
“Roedd hefyd yn gyfle gwych i atgoffa pobl o bwysigrwydd gwaith ein ffermwyr - maent nid yn unig yn cynhyrchu bwyd a gydnabyddir yn fyd-eang am ei ansawdd gwych, ei flas, a’i safonau lles ac iechyd anifeiliaid rhagorol, ond maent hefyd yn gwarchod y cefn gwlad rydym yn ei garu cymaint.
“Mae ein ffermwyr yn rheoli 8.1 miliwn hectar yng Nghymru; mae hynny dros 80% o arwynebedd tir Cymru, ac mae ardaloedd cefn gwlad Cymru sy’n cael eu rheoli gan eich ffermwyr lleol yn darparu’r gefnlen ar gyfer y diwydiant twristiaeth sy’n werth dros £2.5 biliwn.
“A ffermio hefyd yw conglfaen diwydiant y gadwyn cyflenwi bwyd a diod Cymreig gwerth £6.1 biliwn, sy’n cyflogi 76,000 o bobl o fewn y sector bwyd ac amaeth. Mae’n werth cofio bod hyn i gyd hefyd yn help i gadw’n pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.
“Dyna pam ei bod hi’n hanfodol atgoffa pobl bod #AmaethAmByth, a pham y mae UAC yn dal i weithio’n galed i gael y fargen orau i’n cymunedau ffermio unwaith y byddwn yn gadael yr UE.”
Yn ogystal, roedd UAC yn llawn cyffro ynghylch lansio partneriaeth newydd ‘Llafur Cefn Gwlad’ ar ei stondin. Nod y bartneriaeth rhwng y blaid Llafur ac Undeb Amaethwyr Cymru yw pwysleisio pwysigrwydd cefnogi’r diwydiant wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae UAC yn hynod falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth newydd hon. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gael y gefnogaeth sydd ei gwir angen ar amaethyddiaeth unwaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a thrwy’r fenter hon, y gobaith yw y byddwn yn gallu trosglwyddo’r neges bod #AmaethAmByth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol,” ychwanegodd Mr Roberts.