UAC yn rhybuddio, ni ddylid anghofio rhan allweddol masnach yn sgil canlyniad yr etholiad

Dywed Undeb Amaethwyr Cymru ni ddylai’r drafodaeth yngl?n â mynediad rhydd i farchnadoedd yr UE gael eu cysodi gan yr helyntion yn sgil yr Etholiad Cyffredinol, a bod rhaid iddo fod yn flaenoriaeth unwaith eto i wleidyddion.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Roedden ni gyd wedi disgwyl i’r etholiadau hyn ganolbwyntio ar Brexit a materion megis a ddylai Llywodraeth nesaf y DU ddilyn Brexit caled neu feddal, ond dominyddwyd yr ymgyrchoedd gan faterion domestig.

"Ond, yn y pen draw bydd pob polisi domestig yn cael ei ddylanwadu neu ei gyfyngu gan ganlyniad y broses Brexit, gan fod ein dyfodol economaidd yn dibynnu ar sicrhau trefniadau masnachu cadarnhaol gyda'r UE."

Dywedodd Mr Roberts pa bynnag gythrwfl ac ansicrwydd sy’n deillio o ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol, ni ddylai gwleidyddion golli ffocws ar yr angen am drefniant masnachu o'r fath.

"Mae tua dwy ran o dair o allforion adnabyddadwy Cymru yn mynd i wledydd yr UE, tra bod llawer o gyflogwyr mawr yn seilio eu cwmnïau yma yn benodol oherwydd bod gennym fynediad i 500 miliwn o ddefnyddwyr yr UE heb y costau a rhwystr rheolaethau ffin a thollau Sefydliad Masnach y Byd.

Fel diwydiant, mae amaethyddiaeth yng Nghymru’n arbennig o agored i effeithiau colli mynediad i farchnadoedd ffyniannus tir mawr Ewrop sydd ar ein stepen drws; mae traean cig oen Cymru’n cael ei allforio i’r cyfandir, a phan gollwyd mynediad i farchnad yr UE ym 1996, 2001 a 2007 gwelwyd cwymp trychinebus yn incwm ffermydd, cwymp y methodd nifer o fusnesau â’i oresgyn.

Dywedodd Mr Roberts bod y pryderon am effaith Brexit yn allweddol at ddenu llawer mwy o bobl ifanc i bleidleisio, a dylid cymryd y pryderon hyn i ystyriaeth.

Pan daniwyd Erthygl 50 ar Fawrth 29, cyfyngwyd y  cyfnod o amser lle mae’n rhaid gwneud llawer iawn o waith,  a dywedodd Mr Roberts bod canlyniad yr etholiad yn cyfyngu’r amserlen hynny ymhellach.

“Roedd ein maniffesto yn dadlau am ddilyn opsiynau a fyddai’n caniatáu trosglwyddiad esmwyth dros amserlen ddiogel, ac mae hyn yn fwy pwysig nag erioed bellach,” ychwanegodd Mr Roberts.

Ychwanegodd Mr Roberts drwy ddweud y gallai’r Aelod-Wladwriaethau’r UE gytuno ar fwy o amser i drafod ar ôl cyfnod Erthygl 50 Brexit o ddwy flynedd, a fyddai cytundeb o’r fath yn fwy synhwyrol o gofio’r mynydd o waith sydd i’w wneud a’r peryglon posib a ddaw yn y dyfodol.

“Rydym felly yn galw ar wleidyddion pob plaid i weithio gyda’i gilydd yn adeiladol yn y Senedd er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer Brexit, a bod yna drosglwyddiad mor esmwyth â phosib i gyrraedd y canlyniad hynny,” ychwanegodd.