Mae un o hoelion wyth y byd amaethyddol yn Sir Benfro, Brian Thomas wedi cael ei ail ethol fel Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod o Brif Gyngor yr Undeb yn Aberystwyth (Llun, Mehefin 19).
Mae Brian Thomas wedi bod yn ffermio Fferm Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach ers 1988. Mae’r fferm deuluol yn cynnwys 280 acer, 30 acer sy’n goedir. Mae’r fferm yn gartref i 100 o wartheg bîff byrgorn a diadell o 300 o ddefaid, ac mae ?d hefyd yn cael ei dyfu.
Mae’n gyn cadeirydd cangen UAC yn Sir Benfro ac wedi bod yn aelod o bwyllgor tenantiaid canolig UAC. Cafodd Brian ei ethol fel aelod De Cymru o bwyllgor cyllid a threfn ganolog yn 2011 ac yn is lywydd UAC yn 2013.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Brian Thomas: “Hoffwn ddiolch i’r rhai hynny bleidleisiodd i mi fel bod modd i fi barhau yn y swydd o Dirprwy Lywydd yr Undeb. Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Glyn Roberts dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio gydag ef a Bwrdd Cyfarwyddwyr UAC newydd.”
Yn ystod argyfwng BSE ym 1996, arweiniodd Mr Thomas ymgyrch yn Ne Cymru yn gwrthwynebu mewnforio cig eidion gwael i Gymru. Ym 1997, arweiniodd gr?p o 10 o ffermwyr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru i bwysleisio’r ffordd annheg roeddent yn trin y diwydiant.
Mae Brian yn teimlo’n angerddol am TB. Pan aeth ei fuches i lawr â'r clefyd yn niwedd y 1990au, mi ddywedodd mewn cyfweliadau y byddai'r clefyd yn fwy o broblem o lawer na BSE petai ddim yn cael y sylw priodol.
Yn anffodus, i nifer, mi roedd yn dweud y gwir, ac ar hyn o bryd mae’n rhan o weithgor lleol y Cynulliad ar gyfer Ardal Triniaeth Ddwys Gogledd Sir Benfro yn cynrychioli ffermwyr yn yr ardal.