Mae ffermwyr ar draws Cymru wedi mynegi pryderon yngl?n â’r cynigion sy’n cael eu gwneud yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru “Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy” a’r ffaith bod cymaint o gynigion pellgyrhaeddol yn cael eu cynnig mewn un ddogfen heb unrhyw ymgynghoriad na rhybudd blaenorol.
Wrth fynychu Prif Gyngor Undeb Amaethwyr Cymru, cwestiynodd yr aelodau y rhesymeg y tu ôl i'r ddogfen. Er mwyn mynd at wraidd yr amgylchiadau a'r rhesymeg a arweiniodd at sefyllfa mor anghyffredin, awgrymodd a cytunodd aelodau'r Cyngor yn unfrydol, y dylid gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am gopïau o holl ohebiaeth Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymwneud â'r ddogfen ymgynghori, y cynigion a gynhwysir ynddi, y penderfyniad i ymgorffori'r rhain mewn i un ddogfen ac amseriad yr ymgynghoriad.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Mae teitl yr ymgynghoriad yn ymddangos yn ddiniwed, ond mae’n cuddio mwy na hanner cant o gynigion, ac mae llawer ohonynt yn ddadleuol iawn i ystod eang o randdeiliaid. Felly, rydym wedi cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymateb yn darparu’r eglurhad angenrheidiol."
Mae’r ymgynghoriad “Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy” yn rhoi sylw i feysydd mor amrywiol â choedwigaeth, mynediad cyhoeddus i dir a dyfrffyrdd, pysgota, draenio, amaethyddiaeth a bywyd gwyllt - i enwi ond ychydig, gyda chynigion penodol yn cynnwys caniatáu beiciau mynydd ar bob llwybr cyhoeddus, caniatáu pobl i wersylla a chwarae gemau lle bynnag y maent yn dymuno ar dir mynediad agored, gan leihau'r amgylchiadau y gellir diogelu’r cyhoedd pan fydd coed yn pydru ac yn beryglus, a dirwyon yn y fan a'r lle ar gyfer gyrwyr ceir sy’n taflu sbwriel.
"Ac os nad yw un o'r pedwar hyn yn peri pryder neu ddryswch i unigolyn, mae yna bumdeg un arall i'w dewis, gyda digon o gyfle i godi pryderon ymhlith pob rhanddeiliad, o ffermwyr i naturiolwyr, o bysgotwyr i goedwigwyr. Yr hyn sy'n ei wneud yn waeth yw na cafodd rhanddeiliaid unrhyw rybudd o gwbl y byddai ymgynghoriad mor eang yn cael ei gyhoeddi.
"Yn flaenorol, byddai llawer o'r cynigion unigol wedi cael sylw mewn ymgynghoriadau unigol, yn hytrach na chael eu 'pecynnu' mewn i un casgliad enfawr o gynigion gyda theitl mor ddiniwed.
"Wedi'r cyfan, byddai newid pob llwybr cerdded yng Nghymru i lwybr beicio neu lwybr ceffyl yn cynrychioli newid enfawr i ganrifoedd o gyfraith sefydledig sy’n berthnasol i hawliau tramwy. Yn sicr, dylai cynnig o'r fath gael ei gynnwys mewn dogfen ar wahân, yn hytrach na chael ei gladdu fel 'Cynnig 10' ar dudalen 44 o ddogfen 98 tudalen," ychwanegodd Mr Roberts.
Mae UAC yn annog aelodau i ymateb i'r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau ar Fedi 30 drwy eu swyddfa sirol leol i sicrhau bod eu sylwadau yn cael ei gynnwys yn ymateb swyddogol yr Undeb i'r cynigion.