Unwaith yn rhagor, mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant yng Nghymru.
Er mwyn cydnabod y fath wasanaethau, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr ar gyfer gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi, a’r wobr yn cael ei chyflwyno yn Sioe Laeth Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth Hydref 24.
![](/images/users/Translator/FUWDavidWaters.jpg)
Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr teilwng iawn. Felly os ydych yn ymwybodol o berson yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”
Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys cyn Lywydd UAC Sir Gaerfyrddin Ogwyn Evans yn 2008; ffermwr o Sir Gaerfyrddin Bryan Thomas - cyn aelod o gyngor Cymdeithas Holstein Friesian a sylfaenydd Sioe Laeth Cymru yn 2009, ffermwr llaeth o Sir Fflint Terrig Morgan, sylfaenydd y gr?p trafod llwyddiannus ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ifanc yn Sir Fflint sydd bellach yn cael ei redeg gan DairyCo, “The Udder Group” yn 2010; Cadeirydd DairyCo Tim Bennett yn 2011; cyn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC Eifion Huws o Ynys Môn yn 2012; cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Lloegr a Cymru Mansel Raymond yn 2013; ffermwr o Wynedd Rhisiart Tomos Lewis yn 2014; perchennog Daioni Organig Laurence Harris yn 2015 a Gareth Roberts o Llaeth y Llan yn 2016.
Dylai’r enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn gwaith a chyflawniadau’r enwebedig a’i anfon i Swyddfa UAC Sir Gaerfyrddin, 13a Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD cyn dydd Gwener Hydref 6.