Mae gan dros dri chwarter o gefn gwlad Cymru ddynodiad amgylcheddol neu gadwraethol, ac mae hyn yn pwysleisio’r rôl bwysig y mae ffermio yn parhau i chwarae wrth gynnal ein hadnoddau naturiol.
Mae’r drydedd genhedlaeth o ffermwyr i ofalu am y tir ym Medw Arian Uchaf, Rhyduchaf, Y Bala, Geraint a Rachael Davies, sy’n denantiaid ac aelodau o gangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru yn dangos yn union sut mae cynhyrchu bwyd a chadwraeth amaethyddol yn mynd law yn llaw.
Croesawodd y cwpwl ymwelwyr gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC i weld y tir a’r stoc, y gwahanol elfennau o’r cynllun Glastir, gyda sylw arbennig ar opsiynau rheolaeth a Gwaith Cyfalaf y cynllun, yn ogystal â’r Gwaith Cyfalaf a oedd yn rhan o Gynllun Tir Eryri o dan weinyddiaeth Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn fferm organig ers 2005, mae wedi bod yng nghynllun Glastir Sylfaenol ers 2013 ac yn y cynllun Uwch ers 2014.
Mae'r tir, sy'n gorwedd tua 900 troedfedd uwchben lefel y môr, gyda llawer ohono'n cyrraedd hyd at 2200 troedfedd, yn ymestyn i 1200 erw, yn dir mynydd yn bennaf gyda thua 200 erw o dir is, ac mae 70 erw yn cael ei gadw fel silwair bob blwyddyn.
Yma mae Geraint a Rachael yn cadw 1000 o famogiaid Mynydd Cymreig a Hwrdd Mynydd Cymreig, sy'n cael ei droi at y mwyafrif, tra bod oddeutu 300 o famogiaid yn cael eu croesi â hwrdd Innovis Aberfield.
Mae yna fuches fasnachol o 40 o fuchod sugno, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn Wartheg Duon Cymreig pur ac yn cael eu croesi â tharw Limousin. Caiff y lloi eu gwerthu yn stôr rhwng 8-15 mis i brynwyr preifat. Mae'r rhan fwyaf o'r ?yn yn cael eu gwerthu ym marchnadoedd da byw y Bala a Rhuthun.
Er mwyn sicrhau bywyd gwyllt ffyniannus a phoblogaeth adar prin, tra hefyd yn cynhyrchu cig coch ym Medw Arian - sy'n cynnwys safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - mae Geraint a Rachael yn cydweithio'n agos â FWAG Cymru, RSPB Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Rachael Davies yn Fargyfreithiwraig cymwysedig. Yn ogystal â helpu i redeg y fferm, mae’n gweithio fel is-gontractwr gyda Kite Consulting, ac yn ddiweddar wedi cael ei phenodi i Fwrdd Hybu Cig Cymru: "Rydym yn sicr bod modd cynhyrchu bwyd wrth gynnal a chadw'r amgylchedd naturiol, nid ydynt arwahan o gwbl. Gallwn ddangos, yma ym Medw Arian, bod ffermio gyda'r amgylchedd yn cynorthwyo'r broses o ffermio."
Mae Geraint, cadeirydd UAC Meirionnydd yn rhannu cred ei wraig bod gan ffermwyr rôl bwysig i'w chwarae o ran cynnal cefn gwlad a bod y ddau, cynhyrchu bwyd a chadwraeth amgylcheddol yn gallu ac yn gorfod mynd law yn llaw.
Dywedodd: "Rydym wedi bod yn gweithio gydag ystod o gyrff amgylcheddol dros y blynyddoedd, megis FWAG Cymru, ac wedi bod yn rhan o lawer o gynlluniau amgylcheddol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gynhyrchwyr bwyd. Mae'n wirioneddol bwysig bod cydbwysedd da rhwng y ddau. Ni allwch chi gael un heb y llall."
Dywedodd Tegwyn Jones, Llywydd Sir UAC Meirionnydd: "Hoffwn ddiolch i Geraint a Rachael am groesawu pawb i'w fferm a dangos i ni beth ellir ei gyflawni os yw cynlluniau bwyd a chynlluniau amaeth-amgylcheddol yn cydweithio. Fel uned deuluol maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel."