Cefnogaeth iechyd meddwl yn parhau ar frig agenda UAC

Heddiw, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi ei chefnogaeth i Gymdeithas Alzheimer Cymru a Farming Community Network (FCN) fel ei achosion elusennol Llywyddol nesaf.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Fe wnaethom drafod ein helusen Llywyddol nesaf gydag aelodau a staff yr Undeb ar draws Cymru ac roedd yna ddau achos tu hwnt o amlwg.

"Mae dementia yn broblem iechyd cynyddol - mae gan 1 o bob 6 o bobl dros 80 oed ddementia, ac mae gan 850,000 o bobl ddementia yn y DU.

"Rhagwelir cynnydd yn nifer yr achosion o 156 y cant rhwng nawr a 2051, mae'n cyfateb i ddwy filiwn o bobl, a bydd y baich yn disgyn ar ardaloedd gwledig lle mae cyfran uwch o bobl h?n. Felly, nid yw hyn yn fater y gallwn ei anwybyddu ac mae angen gwneud mwy o ymchwil.

"Rydym hefyd am barhau â'n haddewid i gefnogi ffermwyr sydd angen cymorth yn ystod cyfnodau anodd a chodi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.

“Yn ein lleoedd gwaith rydym wedi wynebu ambell i gyfnod reit isel yn ystod y blynyddoedd diwethaf. TB mewn gwartheg, ansefydlogrwydd prisiau ac ansicrwydd ynghylch ein dyfodol ar ôl Brexit, mae hyn oll yn ychwanegu pwysau ac yn arwain at nifer yn teimlo baich enfawr.

"Rwyf felly’n falch medru cyhoeddi y bydd UAC yn codi arian ar gyfer Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r Farming Community Network dros y ddwy flynedd nesaf, gyda 75% o’r arian a godir yn mynd i Gymdeithas Alzheimer Cymru a 25% yn mynd i’r  Farming Community Network."

Nid oes gwella ar glefyd Alzheimer nac unrhyw fath arall o ddementia.  Byddai gohirio’r broses gychwynnol o ddementia o bum mlynedd yn haneru nifer y marwolaethau o'r cyflwr, gan arbed 30,000 o fywydau'r flwyddyn. Официальный сайт казино Joycasino Россия начал свою работу в онлайн-гэмблинге с 2014 года, при этом получил международную лицензию от регулятора Кюрасао. На сегодняшний день помимо основной версии имеется несколько десятков актуальных рабочих зеркал, а также и мобильная версия Джой казино онлайн в виде приложения. Что касается игровых аппаратов, то они достаточно разнообразны, а их количество насчитывает более 1600 видов. Совершеннолетним геймерам в онлайн казино Джойказино Россия они доступны, как для игровых действий на реальные денежные средства, так и бесплатно используя деморежим

Dywedodd Stacey Hawdon, Uwch Weithredwr Partneriaethau Corfforaethol Rhanbarthol Cymdeithas Alzheimer Cymru: "Hoffem ddiolch yn fawr i Undeb Amaethwyr Cymru am uno gyda ni yn erbyn demensia er mwyn cefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan y cyflwr ar draws Cymru.

"O'r 45,000 o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yng Nghymru, rydym yn amcangyfrif bod o leiaf traean yn byw mewn ardal wledig sy’n cyflwyno sialensiau arall i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ddementia megis gwasanaethau cymorth sy'n llai tebygol o gael eu comisiynu mewn ardaloedd gwledig, mae cysylltiadau trafnidiaeth wael yn ei gwneud yn anoddach cael gafael ar gymorth ac mae gofalwyr yn fwy tebygol o deimlo'n unig a heb gefnogaeth.

"Does dim digon o arian i ariannu ymchwil dementia ac nid oes digon o ymchwilwyr a chlinigwyr yn ymuno â'r frwydr yn erbyn dementia. Mae pum gwaith yn llai o ymchwilwyr yn dewis gweithio ar ddementia nag ar ganser. Mae Cymdeithas Alzheimer wedi ymrwymo i wario o leiaf £150 miliwn dros y ddegawd nesaf ar ymchwil dementia i wella gofal i bobl heddiw a darganfod gwellhad ar gyfer yfory. Mae hyn yn cynnwys £50 miliwn i ddatblygu Sefydliad Ymchwil Dementia ymroddedig cyntaf y DU."

Dementia yw'r prif achos o farwolaeth yng Nghymru, gan ddinistrio ein hatgofion, ein perthynas a'u hunaniaethau, ychwanegodd Stacey Hawdon. "Gall hyd yn oed tasgau syml fod yn anodd, ac, yn aml, mae'r symptomau yn anodd eu deall. Heb ein cefnogaeth a'n cyngor ni, mae'n rhaid i bobl â demensia a'u gofalwyr frwydro gyda’r salwch cymhleth, ofnadwy hon ar ben eu hunain."

"Hyd at y diwrnod y byddwn yn darganfod gwellhad, byddwn ni yma i unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan demensia - ble bynnag mae nhw, beth bynnag mae nhw'n mynd drwodd. Rydym newydd lansio strategaeth newydd gyffrous a fydd yn ein gweld yn cyrraedd pawb sydd â diagnosis dementia. P'un a ydynt yn y cymoedd, yn byw yng nghefn gwlad Cymru neu yng nghanol ein dinasoedd, byddwn ni yno i sicrhau nad yw pobl yn wynebu demensia ar ben eu hunain.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y gall Cymdeithas Alzheimer ac Undeb Amaethwyr Cymru gydweithio i wella bywydau pobl sy'n byw gyda demensia mewn cymunedau gwledig a threfol ar draws Cymru," ychwanegodd Stacey Hawdon.

Mae’r Farming Community Network (FCN) yn elusen sy’n cefnogi ffermwyr a’u teuluoedd o fewn y gymuned amaethyddol trwy gyfnodau anodd. Mae FCN yn rhwydwaith o dros 400 o wirfoddolwyr, gydag oddeutu 40 yn gweithio yng Nghymru, nifer ohonynt yn ffermio neu sydd â chysylltiadau agos gydag amaethyddiaeth, ac felly’n deall y materion sy’n wynebu ffermwyr a theuluoedd amaethyddol yn aml.  Mae FCN yn rhedeg llinell gymorth ac un dros y we, gyfrinachol cenedlaethol sydd ar agor bob diwrnod o’r flwyddyn o 7yb i 11yh.  Mae gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth bugeiliol rhad ac am ddim, cyfrinachol a chymorth ymarferol i unrhyw un sydd angen cymorth, boed yn fater personol neu’n berthnasol i’r busnes.

Dywedodd David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru FCN: “Fel elusen, rydym yn hynod o falch bod UAC wedi dewis ni fel un o’u hachosion elusennol Llywyddol dros y ddwy flynedd nesaf.

“Mae FCN yn dibynnu ar roddion er mwyn parhau i allu darparu cefnogaeth fugeiliol ac ymarferol i ffermwyr a theuluoedd amaethyddol ar draws Cymru,  Gydag amaethyddiaeth yng Nghymru yn wynebu newidiadau sylweddol ac ansicrwydd mawr dros y blynyddoedd nesaf, rydym yn rhagweld bydd cynnydd sylweddol ym maich gwaith ein gwirfoddolwyr ar draws Cymru.

"Bydd yr arian a godir gan UAC yn helpu FCN i barhau i ddarparu'r gefnogaeth hanfodol hon i'r gymuned ffermio yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yn UAC am eu cefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at glywed pa weithgareddau codi arian anhygoel y maent wedi'u cynllunio!"