Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan All Party Group on Animal Welfare (APGAW) sy'n adolygu'r broblem barhaol o ymosodiadau ar dda byw ac yn anelu at sicrhau bod perchnogion c?n yn fwy cyfrifol.
Ymhlith y materion a archwiliwyd oedd y diffyg o ddewisiadau arall priodol pan nad oes yna fannau gwyrdd a'r anhawster wrth erlyn y rhai sy’n troseddu o hyd.
Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC: "“Mae ymosodiadau ar dda byw yn parhau i fod yn bwnc pwysig i’n haelodau, ac rydym wedi cyhoeddi dro ar ôl tro'r difrod eang y gall ymosodiadau c?n ei achosi."
Tynnwyd sylw at y problemau emosiynol ac ariannol a achoswyd gan ymosodiadau ar dda byw gan UAC yn ystod nifer o sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan APGAW yn Llundain.
"Mae'r materion y tu ôl i g?n sy'n ymosod ar dda byw yn gymhleth, ac mae'n rhwystredig, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol yn y diwydiant, mae llawer iawn o’r cyhoedd yn parhau i fod yn anymwybodol y gall eu hanifail anwes ymosod, anafu neu ladd da byw,” ychwanegodd Dr Wright.
Mae'r adroddiad yn dangos y dylid cadw c?n o dan rheolaeth yn briodol a lleihau ymddygiad risg uchel o amgylch da byw fod yn brif ffocws wrth geisio lleihau nifer yr ymosodiadau gan g?n.
“Fel yr amlygwyd gan yr APGAW, mae llawer o ymosodiadau c?n yn digwydd gan g?n sydd ar ben eu hunain, sydd wedi crwydro o'r cartref a dim ond rhan fach o’r ateb yw ein negeseuon am gadw c?n ar dennyn o amgylch da byw. Felly, croesawn yr alwad am ymchwil i wraidd ymddygiad gwael ymhlith c?n, " ychwanegodd.
Mae diffyg adrodd achosion yn golygu bod gwir effaith o ymosodiadau ar dda byw yn parhau i fod yn anhysbys ac mae'n debyg bod llawer iawn o achosion ddim yn cael eu hadrodd. Fodd bynnag, lle mae gwybodaeth wedi cael ei gasglu, mae'r ffigurau'n dangos y gallai ymosodiadau ar dda byw fod yn costio tua 1.3 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r diwydiant defaid, ac mae hyn yn swm sylweddol o arian ar gyfer sector sy'n parhau i ddioddef o broffidioldeb isel.
"Mae colledion busnes yn cynnwys colli stoc, cynhyrchu'n lleihau oherwydd straen ar yr anifeiliaid, erthyliadau a cholli elw o stoc yn y dyfodol. Gall y costau hyn fod yn sylweddol ac yn cael eu cyfuno â chostau yswiriant, biliau milfeddygol a gwaredu carcasau.
"Mae cefn gwlad yn lle i'w fwynhau ac mae'r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn defnyddio cefn gwlad heb fod dim yn digwydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ffermwyr allu amddiffyn eu hanifeiliaid a diogelu eu busnesau ac mae'n bwysig bod canfyddiadau'r adroddiad hwn bellach yn cael eu troi’n gamau cadarnhaol” ychwanegodd Dr Wright.