Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu sylwadau a wnaed gan wleidyddion blaenllaw ar amaethyddiaeth ar ôl Brexit yn ystod Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2018, ond hefyd yn dweud bod ffermwyr Cymru’n parhau i fod yn aneglur yngl?n â llawer o faterion pwysig.
Siaradodd Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Michael Gove; Is-Ysgrifennydd Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau dros Masnach a Materion Amaethyddol Tramor Ted McKinney; ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop Paolo De Castro yn ystod sesiwn wleidyddiaeth agoriadol y digwyddiad.
Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Rydym yn croesawu'n fawr ymrwymiad amlwg Mr Gove i gyllid amaethyddol tan 2024, a neges graidd ei araith, sydd wedi disgrifio diwydiant ôl-Brexit ffyniannus a blaengar sy'n cael ei wobrwyo am gyflawni'r gorau yn nhermau bwyd, yr amgylchedd a chyfraniadau cymdeithasol i gymdeithas.
"Fodd bynnag, mae’r manylion bach o wireddu’r weledigaeth hyn yn llawn rhwystrau, ac edrychwn ymlaen at weld mwy o sylwedd ym mhapur gwyn hir ddisgwyliedig DEFRA, sydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn."
Dywedodd Mr Roberts y byddai llawer o ffermwyr yng Nghymru hefyd yn pryderu na ddywedwyd dim am ddatblygiad trafodaethau rhwng rhanbarthau datganoledig ar sut y gallai pwerau a chyllid datganoledig weithredu ar ôl i ni adael fframwaith cyfreithiol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).
"Ar hyn o bryd mae gan Gymru bwerau datganoledig dros wariant a pholisi amaethyddol a datblygu gwledig, ond mae hyn o fewn y terfynau a bennir yn fframwaith y PAC.
"Mae UAC cefnogi’n llwyr fod pwerau datganoledig o'r fath yn parhau. Ond, erbyn hyn mae angen i ni sicrhau bod pwerau datganoledig yn cael eu parchu'n llawn gan y 4 gwlad ac nad ydym yn gweld system yn datblygu lle mae un wlad yn elwa’n fwy na’r lleill. Felly, mae angen i ni ddatblygu fframwaith y DU sy'n sicrhau'r un peth i’r pedair gwlad, sy'n parchu pwerau datganoledig ac yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd. "
Wrth gydnabod bod hi’n anodd sicrhau’r cydbwysedd cywir, yn enwedig o ystyried gwahaniaethau gwleidyddol rhwng y rhanbarthau datganoledig, dywedodd Mr Roberts fod angen i bethau ddatblygu.
"Mae gennym system o'r fath ar hyn o bryd, felly nid yw'n anodd gweld sut y gellid datblygu fframwaith sy'n sicrhau cydbwysedd synhwyrol rhwng parchu pwerau datganoledig ac osgoi’r peryg o ryddid i bawb."
Dywedodd Mr Roberts y dylai sicrhau cytundeb synhwyrol ar fframweithiau gwario fod yn flaenoriaeth, er mwyn osgoi gwahaniaethau anaddas ac annheg rhwng ardaloedd gwario cenhedloedd datganoledig.
Pwysleisiodd hefyd bod angen i weledigaeth Mr Gove am ddyfodol amaethyddiaeth y DU gael ei ategu gan fargen fasnachol ôl-Brexit dderbyniol gyda'r UE.
"Rwyf felly'n croesawu cadarnhad yr Athro De Castro o awydd yr UE i sicrhau masnach di-dariff rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit,” ychwanegodd.
Hefyd, croesawodd Mr Roberts sylwadau Is-ysgrifennydd McKinney ynghylch yr awydd i gynyddu masnach amaethyddol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau, ond rhybuddiodd bod angen cymryd gofal i sicrhau na fyddai unrhyw drefniadau newydd yn peryglu marchnadoedd presennol.
"Mae safonau yn yr Unol Daleithiau yn wahanol iawn i'r rhai mewn marchnadoedd sefydledig y DU a'r UE, ac mae angen i ni sicrhau nad yw trefniadau newydd yn peryglu neu'n tanseilio marchnadoedd sefydledig.”