Roedd arogleuon coginio cartref yn cyfarch y rhai a ymunodd â brecwastau Ceredigion, a drefnwyd fel rhan o ymgyrch brecwast Ffermdy UAC yr wythnos ddiwethaf.
Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghlwb Rygbi Aberaeron a Chlwb Rygbi Tregaron, ac roedd nifer dda o bobl yn bresennol. Yn ogystal â chodi proffil cynnyrch Cymru ac yn dangos rôl bwysig y sector bwyd a diod yn ein bywydau bob dydd, codwyd £520 hefyd ar gyfer elusennau UAC sef Cymdeithas Alzheimers Cymru a'r Farming Community Network (FCN).
Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Jones, a drefnodd y brecwastau: "Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogasom ni eto eleni a sicrhau llwyddiant y brecwastau.
"Roeddwn am arddangos pryd bwyd pwysicaf y dydd mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd a maeth brecwast, a hefyd yn gyfle i ddangos i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fod ffermwyr yn allweddol wrth gynnal ein cymunedau gwledig, cynnal a chadw sector amaethyddol broffidiol ac wrth gwrs yn cynhyrchu bwyd rhagorol.
“Diolch yn fawr hefyd i Ben Lake AS ac Elin Jones AC am ymuno gyda ni am frecwast ac i drafod #AmaethAmByth. Diolch yn arbennig hefyd i’n noddwyr am roi’r bwyd ar gyfer y brecwastau; Ben Evans Cigydd, Llanon; Cigydd Owain, Aberaeron; Cigydd D.Davies, Tregaron; Cigydd Gary Jones, Tregaron; Spar Tregaron; Wyau HD & C, Fferm Pengraig, Ystrad Meurig; Sainsbury’s Llanbed; Costcutters Aberaeron; Popty Aberaeron ac J H Williams a’i Feibion, Llanbed.”