Bu aelodau iau cangen Meirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru a Gareth Wilson, pennaeth Polisi Ffermio yn y Dyfodol Llywodraeth Cymru, yn ymweld â phedair fferm yn rhan ddwyreiniol y sir yr wythnos diwethaf.
Trefnwyd yr ymweliadau i dynnu sylw at bryderon ffermwyr iau, a manteisio ar y cyfle i sgwrsio gydag aelodau o'r teulu am gyflwr presennol y diwydiant amaethyddol a'r ansicrwydd a'r heriau sydd o'n blaenau, yn enwedig o ran y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Geraint Davies, cadeirydd cangen UAC Meirionnydd sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio UAC: "Roedd y ffermydd yn cynrychioli croestoriad o'r diwydiant ym Meirionnydd, gyda rhai yn cael eu rhedeg gan y perchnogion, ac eraill yn ffermydd â thenantiaid neu â thir dan gytundebau pori.
"Yn ogystal â thrafod y fenter ffermio ar bob un o'r ffermydd, cafwyd cyfle i ystyried y pum egwyddor craidd ar gyfer dyfodol y tir a'r bobl sy'n ei reoli a gyhoeddwyd gan Lesley Griffiths AC yn ei datganiad ar ddechrau mis Mai."
Dywedodd Mr Davies bod y dehongliad o "nwyddau cyhoeddus" wedi cael ei drafod yn drylwyr gyda nifer o'r farn y dylai cynhyrchu bwyd o safon uchel gynnwys nwyddau cyhoeddus.
"Cafwyd trafodaeth fanwl a phlaen ar gynlluniau megis Cynllun Ymsefydlu Pobl Ifanc mewn Amaeth 2018 a'r Grant Busnes i Ffermydd.”
Dywedodd Mr Davies bod yna neges glir gan aelodau - bod angen rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod y ddelwedd o ffermio fel gyrfa yn ddeniadol i bobl ifanc, ac y dylai buddsoddi yn ein hieuenctid fod yn ganolog i ffurfio polisi yn y dyfodol.
Diolchodd Mr Davies i deuluoedd Rhydgethin, Llandrillo; Tyucharllyn, Gwyddelwern; Gaergoed, Glanyrafon a Braich Du, Glanyrafon am y croeso cynnes ac am dynnu sylw at faterion pwysig i'r diwydiant a ffermwyr ifanc.