Mae’r cyflwynydd teledu Cymreig adnabyddus, ac un o hoelion wyth amaethyddiaeth Alun Edwards, wedi cael ei gydnabod am ei ymroddiad eithriadol i'r diwydiant ffermio gyda Gwobr Fewnol Undeb Amaethwyr Cymru am Wasanaethau i Amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.
Daeth Alun Elidyr, fel y mae’n cael ei adnabod yn y gymuned amaethyddol ac ar y gyfres deledu Ffermio ar S4C, adref i ffermio Cae Coch, Rhydymain ym 1996, ar ôl colli ei dad yn sydyn. Roedd hyn ar ôl gyrfa actio lwyddiannus - yn actio mewn nifer o gyfresi drama megis Coleg, Yr Heliwr, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad, a Lleifior.
Roedd yn benderfynol o weld ffermio a'r ffordd o fyw yn parhau yng Nghae Cae, ac yn arbennig i ofalu am ei fam ar y pryd.
Daeth yn weithgar iawn yn ei gangen leol ym Meirionnydd o’r cychwyn cyntaf a daeth yn Gadeirydd y gangen leol, ac yn fuan yn Gadeirydd y Sir. Roedd Alun ar yr hen bwyllgor Cyllid a Threfn yr Undeb ac am flynyddoedd, bu’n gweithio'n galed iawn fel cadeirydd pwyllgor Addysg a Hyfforddiant UAC.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae Alun wedi cyfrannu cymaint, nid yn unig i'w ardal leol, ond hefyd yn genedlaethol i’r diwydiant amaethyddol ac mae wedi gwneud popeth â chymaint o egni a brwdfrydedd.
“Os am ydych ami rywun wneud rhywbeth, gofynnwch i berson prysur ac mae Alun yn enghraifft berffaith o hyn. Yn ffermwr bîff a defaid llawn amser, cyflwynydd un o'r rhaglenni amaethyddol mwyaf poblogaidd ar y teledu, nifer o swyddi gwirfoddol yn ei gymuned leol ac ar lefel genedlaethol - mae'n gwneud popeth â gwên a'r croeso mwyaf.
“Nid yw’n ofn amddiffyn y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae yn ein bywydau bob dydd ac i gadw olwynion ein heconomi i droi ac mae'n gwneud hynny ar bob cyfle posib ac ar bob lefel. Ychydig iawn sydd â'r ymroddiad a'r hyder i amddiffyn ein cymuned mor angerddol.
Mae'n bleser mawr gen i felly i gyflwyno Gwobr Fewnol Undeb Amaethwyr Cymru am Wasanaethau i Amaethyddiaeth iddo”.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Ffermio Gwawr Lewis: “Mae Alun yn llwyr haeddu cael ei gydnabod am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Mae ei wybodaeth am y diwydiant a'i angerdd dros y bobl yn amhrisiadwy.
"Mae Alun wedi ymdrin â llawer o faterion pwysig y diwydiant ar 'Ffermio' - o TB, Brexit i Iechyd a Diogelwch ac mae wedi ymladd am atebion i ffermwyr gan wleidyddion ac arweinwyr diwydiant. Un o’i eitemau mwyaf dwys ar y rhaglen oedd ei salwch meddwl – roedd ei onestrwydd mor deimladwy ac mae wedi helpu cymaint o fewn y diwydiant.
"Rydym yn ffodus iawn o gael Alun fel rhan o'n tîm, mae'n aelod amhrisiadwy sy'n mynd un cam ymhellach bob tro."