Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd y taliad sylfaenol yn cael ei dalu’n gynt ac ni fydd benthyciadau brys ar gael tan fis Rhagfyr yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi colli gafael â goblygiadau’r tywydd eithafol y 12 mis diwethaf ar ffermwyr.
Dyna farn UAC ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ddydd Iau (Awst 24), gan gadarnhau na fyddai'n dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban a chynnig benthyciadau o ddechrau mis Hydref ymlaen.
Yn hytrach, nid yw’n bwriadu newid dyddiad y taliad sylfaenol arferol ym mis Rhagfyr, ac ond yn cynnig benthyciadau i’r pump i ddeg y cant o ffermwyr na fydd yn derbyn taliadau erbyn y dyddiad hwnnw.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Yn eironig, fe wnaeth Plaid Lafur yr Alban feirniadu Llywodraeth yr Alban am fod yn araf i gadarnhau y byddai benthyciadau ar gael ym mis Hydref i ffermwyr fydd ddim yn gallu fforddio prynu porthiant a bwyd yn dilyn cynhaeaf trychinebus - ac am beidio gwneud mwy.
"Ond yng Nghymru, gyda Llafur mewn grym, nid yw ymdrechion Llywodraeth Cymru yn agos at yr hyn a gynigir yn yr Alban."
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn pryderu y byddai rhyddhau benthyciadau a thaliadau cynnar mewn rhannau eraill o'r DU, Iwerddon a rhannau eraill o'r UE yn arwain at borthiant a gwellt yn diflannu o farchnad y DU o fis Hydref ac o bosib hyd yn oed yn cael eu stocio gan ffermwyr mewn gwledydd eraill, tra bod ffermwyr Cymru yn aros am daliadau ac felly'n methu â chystadlu.
"O ystyried y cynhaeaf trychinebus yma yng Nghymru ac ar draws yr UE, mae perygl gwirioneddol erbyn bydd taliadau neu fenthyciadau Cymreig ar gael bydd taliadau cynnar neu fenthyciadau gwledydd eraill yn arwain at borthiant hanfodol yn diflannu o'r farchnad a’r prisiau’n cynyddu.
"Mae'r oedi wrth drefnu'r cyfarfod tywydd brys a ofynnwyd gennym ddechrau mis Gorffennaf, a'r penderfyniad hwn, yn achosi pryderon gwirioneddol nad yw Llywodraeth Cymru yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw goblygiadau'r tywydd - er gwaethaf ein gohebiaeth a'n diweddariadau rheolaidd ers mis Mai."
Dywedodd Mr Roberts, er bod yr Alban wedi cyhoeddi benthyciadau cynnar i ffermwyr, bod yr UE wedi pasio mesurau argyfwng yn ymwneud â llu o reoliadau ac yn caniatáu i lywodraethau i weithredu’n gynnar.
"Mewn cyferbyniad, ymddengys bod ymateb Llywodraeth Cymru yn un tu hwnt o hamddenol.”