Ffermwyr llaeth o Sir Gaerfyrddin yn cynnig cipolwg ar fusnes llwyddiannus

 

Nid yw arallgyfeirio yn rhywbeth sy'n addas i bob busnes fferm ond mae teulu Edwards, Groesasgwrn, Llangyndeyrn, ger Caerfyrddin, yn sicr yn gwybod sut i roi talent a sgiliau’r teulu i ddefnydd da.

Mae Roy a Nerys Edwards, sydd â phedwar mab Dafydd, 17, Sion 13 a'r efeilliaid Owain a Rhydian, 10, wedi bod yn ffermio’r daliad 300 erw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin ers 12 mlynedd.

 

Mae Roy, a enillodd Fferm Ffactor yn 2014, yn gofalu am y fuches 160 o wartheg godro yn llawn amser ac mae amser Nerys yn cael ei rannu rhwng cymryd rhan weithredol yn y gwaith o redeg y fferm, a chynnal busnes cacennau llwyddiannus 'Cacennau Moethus'.

 

Symudodd rhieni Roy, Emyr a Margaret i Groesasgwrn ym 1970 ac ym 1999, prynwyd daliad ychwanegol - Ty'r Stewart – tafliad carreg i ffwrdd.

 

Ar ôl prynu Ty'r Stewart roedd angen tipyn o fuddsoddiad ac roedd yn rhaid i'r teulu moderneiddio popeth gan gynnwys ail-hadu, ffensio a gosod gwrychoedd. Bu Nerys a Roy yn byw yn Nhŷ'r Stewart ar ôl priodi 18 mlynedd yn ôl ond chwe blynedd yn ddiweddarach yn 2006 newidiodd y ddau deulu drosto er mwyn ffermio Groesasgwrn yn llawn amser.

 

Wynebodd y teulu heriau anodd dros y blynyddoedd, gyda phris llaeth yn achosi’r rhwystr mwyaf. Roedd gwerth y siec laeth wedi haneru, ac roedd yn rhaid i'r cwpl wneud penderfyniad - nid oedd gorffen godro yn ddewis, felly penderfynwyd moderneiddio'r uned godro yn ei gyfanrwydd.

 

Roedd rhaid i Nerys a Roy fuddsoddi’n helaeth er mwyn moderneiddio'r daliad, a gyda chefnogaeth rhieni Roy, mae'r cwpl yn ystyried eu hunain yn ffodus. "Rydyn ni wedi bod yn ffodus oherwydd bod rhieni Roy yn meddwl ymlaen i’r dyfodol ac roeddent am i ni barhau i wneud y fferm yn llwyddiant. Fe wnaethant roi cyfle gwych i ni, " meddai Nerys.

 

"Y parlwr godro yw asgwrn cefn y fferm a dyna'r peth pwysicaf. Unwaith roedd hwnnw yn ei le, dilynodd popeth arall. Mae rhai pobl yn ei wneud y ffordd arall - cynyddu'r fuches ac yna uwchraddio. Ond wedyn mae’r gwartheg yn sefyll am oriau yn aros i gael eu godro. Ac mae pobl yn mynd o dan bwysau yn y parlwr am 3 - 4 awr ar y tro,” dywedodd Roy.

 

Ond nid llaeth a phlant yn unig sy'n meddiannu amser Nerys. Rhwng godro, gwaith papur a mynd a’r plant i’r ysgol, mae hi hefyd yn cadw busnes cacennau llwyddiannus.

 

Oherwydd dawn artistig a choginio Nerys,  dechreuodd wneud ychydig o gacennau pen-blwydd i deulu a ffrindiau wyth mlynedd yn ôl, ac mi gynyddodd yr archebion dros y blynyddoedd. Mae hi bellach wedi sefydlu busnes cacennau priodas. Yn bennaf mae ei chwsmeriaid o gwmpas Caerfyrddin a Llandeilo ond yn ddiweddar mae wedi ehangu i Aberystwyth, Casblaidd, Caerdydd a'r Gŵyr.

 

"Mae'r holl gacennau'n cael eu gwneud yma gartref, sy'n gweithio’n dda i mi. Gallaf fod yma'n pobi tan yn hwyr yn y nos ac yna dechrau’n gynnar yn y bore. Mae’n golygu hefyd bod modd i fi aros yma ar y fferm gyda'r plant. Os ydych chi’n cael adborth da gan bobl, mae’n ysgogiad gwych. Ac mae'n rhoi hyder i chi ymrwymo ymhellach. Rwy'n cofio gwneud ychydig o gacennau Nadolig i weld beth fyddai’r ymateb. Defnyddiais Facebook a thynnu lluniau, ac yn sydyn reit roedd pobl eisiau prynu’r cacennau. Yna, dechreuais fynd i ffeiriau Nadoligaidd a daeth pobl yn ymwybodol o’r busnes. Mae'n ymddangos bod pobl yn hoffi’r cacennau, ac mae’r cwsmeriaid wedi bod yn gefnogol iawn, " meddai Nerys.

 

Mae Nerys yn defnyddio cynhwysion lleol lle bo'n bosib ac ond yn defnyddio'r cynhwysion o ansawdd gorau fel jamiau, ac mae hyd yn oed wedi ennill ambell i wobr mewn sioeau. Mae Roy, y gŵr yn hoff iawn o'r cacennau ac yn dweud: "Rydym yn sicrhau ein bod yn cael blasu rhai ohonynt. Pan fydd Nerys yn gwneud jam ei hun i fynd gyda’r cacennau maent yn blasu hyd yn oed yn well! "

 

Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC Dai Miles: "Ar ran UAC, hoffwn ddiolch i Roy a Nerys am ddangos y fferm laeth i ni. Mae eu brwdfrydedd yn heintus ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt yn y dyfodol."