Unwaith eto mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r bwyd gwych a gynhyrchir yng Nghymru a phwysleisio’r manteision o fwyta brecwast iach yn ystod Wythnos Brecwast Ffermdy (Ionawr 21 - Ionawr 27).
Cynhelir amrywiaeth o frecwastau yn Sir Gaernarfon, felly beth am ymuno ac un o’n 7 brecwast sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:
Llun 21 Ionawr yn Nhy’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor a Cefn Cae, Rowen, Conwy
Mercher, 23 Ionawr yng Nglynllifon, Grŵp Llandrillo Menai, Ffordd Clynnog, Caernarfon
Iau, 24 Ionawr yn Gwythrian, Uwchmynydd, Aberdaron
Gwener, 25 Ionawr yn Nhylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed, a Caffi Anne, Bryncir
Sadwrn, 26 Ionawr ar Fferm Crugan, Llanbedrog, Pwllheli
Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: "Rwy'n edrych ymlaen at ein brecwastau ffermdy bob blwyddyn. Gallwn ni ddechrau'r diwrnod gyda'n gilydd mewn modd positif ac iach, a chodi arian ar gyfer ein hachosion elusennol, Cymdeithas Alzheimer Cymru a FCN ar yr un pryd. Dros y 9 mlynedd diwethaf, mae brecwastau Sir Gaernarfon yn unig wedi codi dros £45,000 ac rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall eleni. Mae dechrau iach, nid yn unig yn dda i’r galon ond hefyd i feddwl iach. Mae yna ddywediad, Bwytewch frecwast fel Brenin
Cysylltwch â'r ffermydd yn uniongyrchol neu swyddfa'r sir yng Nghaernarfon i drefnu amser i chi fynychu unrhyw un o'r brecwastau. Y gost fydd £10 y pen, a bydd yr holl elw’n cael ei rannu rhwng Cymdeithas Alzheimer Cymru a’r FCN.
"Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Edrychwn ymlaen at eich croesawu a chael cyfle i rannu eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant. Rhannwch eich straeon gyda ni a helpu ni i ddeall sut y gallwn ni helpu ein gilydd, a pha ffordd well o wneud hynny nag o amgylch bwrdd dros baned o de wrth werthfawrogi bwyd gwych," ychwanegodd Gwynedd Watkin.
Am ragor o wybodaeth ar sut i archebu eich lle wrth y bwrdd brecwast, cysylltwch â swyddfa Sir Gaernarfon ar 01286 672541.