Mae iechyd meddwl, neu broblemau iechyd meddwl, yn fater sy'n effeithio’n fawr ar y gymuned amaethyddol ac mae’n ffaith bod unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl.
Mae’r rhai hynny sy'n gweithio yn y sector amaethyddol, fel yr FUW yn dod i gysylltiad rheolaidd â phobl sy’n unig ac yn debygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, ac yn sgil hyn, yn Sioe Frenhinol Cymru 2017, addawodd yr Undeb i godi ymwybyddiaeth ymhellach o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Fel cyflogwr, aethpwyd a’r addewid yna un cam ymhellach yn ddiweddar pan gafodd staff yr Undeb gyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar iechyd meddwl o dan arweiniad Emma Picton-Jones o’r DPJ Foundation.
Roedd y cwrs hyfforddi dau ddiwrnod yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o iechyd meddwl, y symptomau a’r arwyddion o rywun yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn edrych ar sut i helpu rhywun a phroblemau iechyd meddwl, iselder ysbryd, pryder a seicosis.
"Mae iechyd meddwl yn broblem i bob gweithle a gweithlu ac rwy'n falch o ddweud bod ein staff nawr wedi derbyn yr hyfforddiant priodol, a fydd yn eu helpu nhw i helpu eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, megis iselder, pryder a seicosis.
“Mae FUW yn cymryd ei ymrwymiad i feithrin iechyd meddwl da o ddifrif, yn enwedig gan fod ein hymwybyddiaeth o'r risgiau i ffermwyr yn dod yn fwy amlwg," meddai Alan Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr FUW.
Mae FUW yn deall y gallai methu â delio â lles meddyliol gwael arwain at ganlyniadau difrifol megis bod gwaith y fferm yn cael ei esgeuluso, anaf difrïol, perthynas yn chwalu, iechyd corfforol gwael a hunanladdiad.
"Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos bod unigrwydd ac unigrwydd cymdeithasol yn faterion sylweddol sy'n effeithio ar ein poblogaeth hŷn, ond mae'n bwysig cydnabod bod ffermwyr a'r rhai sy'n gweithio mewn cymunedau gwledig yn gweithio oriau hir ac anghymdeithasol, mewn amgylchiadau anodd ac o fewn marchnadoedd gwael. O ganlyniad, mae llawer o ffermwyr yn dueddol o deimlo'n unig ac ynysig, waeth beth fo'u hoedran neu eu rhyw ac maent yn cynrychioli poblogaeth sydd mewn perygl enfawr o ddioddef o broblemau iechyd meddwl.
"Rwy'n falch o'n staff am gymryd y pwnc hwn mor ddifrifol. Nid yw'n rhywbeth sy'n rhan o'u swydd ond mae'n rhywbeth yr oeddent am ei wneud ac rwy'n hapusach bod y stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl yn newid yn araf a bod yr Undeb yn rhan o ysbrydoli'r newid hwnnw," meddai Llywydd yr FUW Glyn Roberts.
Wrth siarad ar ôl yr hyfforddiant, dywedodd Emma Picton-Jones, sylfaenydd DPJ Foundation: "Mae’r hyfforddiant hwn wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ac mae llawer o sefydliadau wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn am yr hyfforddiant hwn ar frys oherwydd eu bod yn gweld bod yna bryder gwirioneddol yn sgil Brexit ond hefyd bod llawer o bethau eraill yn digwydd sydd yn poeni pobl.
"Mae'n galonogol iawn bod sefydliadau fel yr FUW yn awyddus i allu delio â'r sefyllfaoedd hynny yn effeithiol ac am wneud rhywbeth i helpu pobl eraill. Mae'n wych."
Ychwanegodd, er bod angen tipyn mwy o waith, mae agweddau tuag at iechyd meddwl yn newid.
"Mae'r stigma o gwmpas iechyd meddwl yn newid, ac rwyf wedi gweld newid anferth dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers sefydlu'r sefydliad. Mae pobl yn fwy agored amdano ac yn enwedig gyda'r hyfforddiant hwn gall pobl fynd yn ôl i'w swyddfeydd a'u haelodau, ac yn falch o fedru dweud bod nhw wedi derbyn yr hyfforddiant.
"Mae pobl yn sôn am yr hyn maent wedi'i ddysgu a'r gwahanol sefyllfaoedd a drafodwyd ac mae hyn i gyd yn annog sgwrs. A po fwyaf y siaradwn amdano, y mwyaf agored ydyn ni a’r stigma’n lleihau, " ychwanegodd Emma Picton-Jones.